Mae dyletswydd ar bawb fynd i’r afael â gwraidd anghyfartaledd rhywedd. Rydym yn galw ar y cynghorau yng Nghymru sydd newydd eu hethol i flaenoriaethu gweithredu i greu Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd – meddai Tomos Evans, Partner Polisi a Materion Cyhoeddus yn yr elusen cyfartaledd rhywedd Chwarae Teg.
Gyda chynghorwyr bellach yn ymgymryd â’u rolau newydd mewn neuaddau sir ledled Cymru yn dilyn yr etholiad yr wythnos diwethaf, mae’n bwysig troi ein sylw at yr hyn y bydd ein cynrychiolwyr lleol yn ei wneud dros y pum mlynedd nesaf.
Mae cynghorwyr lleol yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar nifer o agweddau o’n bywydau, sy’n golygu bod gan awdurdodau lleol nifer o arfau i’w defnyddio i fynd i’r afael â’r anghyfartaledd strwythurol a brofir gan fenywod ledled Cymru.
Os ydym am wneud Cymru’n fwy cyfartal, mae’n hanfodol bod ein cynghorau a’n harweinwyr cynghorau newydd yn defnyddio’r pum mlynedd nesaf yn eu swyddi i sicrhau newid. Dyna pam y mae Chwarae Teg wedi galw am weithredu mewn pum maes allweddol a allai wneud gwahaniaeth mawr i fywydau menywod, gan ein harwain at Gymru lle mae menywod, o bob cefndir a phrofiad, yn cael eu grymuso i gyflawni a ffynnu.
Fel y dangosodd canlyniadau’r etholiad eleni, mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli ar lefel llywodraeth leol. Er bod rhai straeon da yn y newyddion, fel y ffaith bod Sir Fynwy a Bro Morgannwg wedi cyflawni cydraddoldeb rhywedd, yn gyffredinol dim ond 36% o’r rheini a etholwyd yr wythnos diwethaf sy’n fenywod. Mae llai byth o’r rheini a etholwyd yn fenywod o leiafrif ethnig neu sydd ag anabledd. Mae Sir Fynwy’n enghraifft benodol sy’n dangos yr angen hanfodol i weithredu’n gadarnhaol i amrywio ein cynrychiolwyr lleol.
Rydym yn gwybod bod cynrychiolaeth yn bwysig. Pan mae menywod yn yr ystafell, caiff materion gwahanol eu trafod a chaiff safbwyntiau gwahanol eu hystyried. Dyna pam ei bod yn hollbwysig bod arweinwyr cyngor yn blaenoriaethu gweithredu i gynyddu nifer ac amrywiaeth o ran cynghorwyr benywaidd yng Nghymru. Dylai hyn gynnwys sefydlu a symud tuag at gabinet â chydbwysedd rhywedd gan gadw’r gallu i ymuno â chyfarfodydd cyngor o bell, ac ariannu a chyflwyno rhaglenni sy’n cynyddu nifer ac amrywiaeth o ran menywod sy’n sefyll mewn etholiadau lleol. Fel y mae canlyniadau eleni’n dangos, mae’r datblygiad tuag at gynghorau lleol sy’n wirioneddol gynrychioladol yn parhau i fod yn llawer rhy araf. Ni allwn ac ni ddylem fod yn yr un sefyllfa mewn pum mlynedd.
Mae gofal plant yn parhau i fod yn rhwystr i fenywod wrth gael mynediad i’r byd gwaith a datblygu yno; Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o gyfeirio at ofalu am y teulu fel y rheswm dros beidio ymgysylltu â’r economi ffurfiol, cyflogedig. Gallwn ni roi cymorth i fenywod gael swyddi a gyrfaoedd da, sy’n talu’n dda os gallwn ni sicrhau bod gofal plant yn hawdd cael mynediad iddo ac yn fforddiadwy i bob rhiant.
Mae cynghorau’n chwarae rôl bwysig wrth ddarparu gwybodaeth am ofal plant, yn ogystal â sicrhau bod gofynion gofal plant yn cael eu diwallu. Cymryd camau i wella mynediad at wybodaeth am gymorth gyda gofal plant yw’r ail faes yr ydym yn galw ar arweinwyr cynghorau i ganolbwyntio arno, drwy sicrhau bod Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn cael eu hariannu’n dda ac yn cynnig siop un stop ar gyfer gwybodaeth. Rydym hefyd yn galw ar gynghorau i arwain drwy esiampl trwy ddarparu cymorth gofal plant digonol i staff a chynghorwyr cynghorau.
Caiff gofal cymdeithasol a’i bwysigrwydd i gymdeithas ei danbrisio llawer yn rhy aml gennym ni gyd. Er gwaetha’r ffaith bod y blynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni pa mor bwysig mae’r sector gofal cyhoeddus ar gyfer ein hiechyd a’n lles, mae’r sector yn parhau i weld gweithwyr – y mwyafrif ohonyn nhw’n fenywod – ar gytundebau ansicr a chyflog isel.
Y trydydd maes yr ydym am ei weld yn cael ei flaenoriaethu gan gynghorau sydd newydd eu hethol yw gwerth gofal cymdeithasol. Mae’n rhaid i gynghorau fabwysiadu egwyddorion comisiynu moesol wrth gomisiynu a chynnal gwasanaethau gofal cymdeithasol megis talu’r Cyflog Byw gwirioneddol, cyfyngu ar gytundebau dim oriau, gwneud swyddi’n fwy sicr a darparu’r gweithlu â chyfleoedd clir ar gyfer datblygu.
Rydym yn gwybod bod penderfyniadau o ran cynllunio a thrafnidiaeth yn anwybyddu anghenion menywod a merched yn rhy aml, er bod tystiolaeth yn dangos bod menywod a merched yn defnyddio trafnidiaeth a mannau cyhoeddus yn wahanol i ddynion. Wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae menywod yn mynd ar deithiau byrrach, nifer o weithiau mewn diwrnod. Mae menywod yn llai tebygol o gael mynediad i gar ac yn llawer mwy tebygol o deimlo’n anniogel mewn mannau cyhoeddus. Mae’r ffaith nad yw anghenion menywod yn rhan o’r broses gynllunio mewn gwirionedd yn gwneud anghydbwysedd rhywedd yn waeth.
Dyna pam bod ein pedwerydd galwad i weithredu’n canolbwyntio ar y ffordd y caiff penderfyniadau am ofodau cyhoeddus a thrafnidiaeth gyhoeddus eu gwneud. Mae’n hollbwysig gosod profiad go iawn a diogelwch menywod a merched yn ganolog i’r penderfyniadau hyn.. Dylai cynghorau sicrhau bod y gweithlu trafnidiaeth gyhoeddus wedi eu hyfforddi ynglŷn â sut i fonitro, adrodd ac atal digwyddiadau o aflonyddu neu drais rhywiol a bod pob datblygiad newydd wedi ei gynllunio’n dda a’i oleuo’n dda.
Yn bumed ac yn olaf, bydd cynghorau’n penderfynu cyn hir sut i wario Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae’n hanfodol bod y cronfeydd hyn yn cael eu defnyddio i fynd i’r afael ag asgwrn y gynnen o ran anghydbwysedd rhywedd. Rydym yn gwybod am bwysigrwydd trydydd sector Cymru wrth fynd i’r afael ag unrhyw anghydbwysedd ar gyfer grwpiau penodol o bobl a chymunedau, felly rydym yn galw ar arweinwyr lleol i ymgysylltu â’r sector fel y gallwn greu cynlluniau ar y cyd i sicrhau bod y cynllun ariannu newydd yn llwyddiant i bawb yng Nghymru.
Bydd creu Cymru sy’n gydradd o ran rhywedd yn cymryd amser, ond ni fyddwn ond yn gwneud cynnydd os yw pawb yn gwneud ei ran. Dros y pum mlynedd nesaf, os bydd cynghorau ledled Cymru’n gweithredu yn y pum maes hyn, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau menywod a symud yn agosach o lawer at Gymru sydd wir yn gydradd o ran rhywedd.