Bydd Cymru’n dadorchuddio ei thrydedd Plac Porffor sydd yn dathlu cyflawniadau menywod rhyfeddol y genedl ar 11 Hydref, sef Diwrnod Rhyngwladol y Merch.
Bydd y plac yn anrhydeddu’r AS benywaidd cyntaf yng Nghymru, Megan Lloyd George, gyda phlac ar hen gartref ei theulu yng Nghricieth, ym Mhen Llŷn.
Megan Lloyd George oedd yr AS benywaidd cyntaf i etholaeth Gymreig, Ynys Môn, o 1929-1951 ac yn ddiweddarach Caerfyrddin o 1957-1966. Drwy gydol y cyfnod hwn, bu’n hyrwyddo menywod mewn ffyrdd arwyddocaol.
Yn ystod ei haraith gyntaf, siaradodd am dai gwledig a’r effaith yr oedd tai gwael yn ei chael ar fenywod ar Ynys Môn, megis y gyfradd uwch o farwolaethau o ganlyniad i TB ymhlith menywod o’u cymharu â dynion.
Ymgyrchodd dros gyflog cyfartal a mynnodd fod y Llywodraeth yn gwneud mwy i roi rôl gyfrifol i fenywod yn yr ymdrech ryfel.
Roedd hefyd yn aelod o Orsedd y beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol (1935) ac yn Llywydd ymgyrch Senedd i Gymru ar ddechrau’r 1950au.
Enwebwyd Megan Lloyd George gan Eluned Morgan AC a Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched yng Nghymru.