Ymateb Chwarae Teg i gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ynghylch diwygiadau arfaethedig i’r Senedd

10th May 2022
Wrth ymateb i gyhoeddiad ar y cyd heddiw gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ynghylch diwygiadau arfaethedig i’r Senedd, dywedodd Cerys Furlong, Prif Weithredwr, Chwarae Teg:

Efallai bod y cyhoeddiad heddiw yn ymddangos yn radical i rai, ond mae ei wir angen, a bydd yn arwain at ein gweledigaeth ar y cyd o Gymru deg, cyfartal ar sail rhywedd.

“Mae cwotâu rhywedd a chynnydd yng nghyfanswm nifer aelodau’r Senedd yn newidiadau rydyn ni wedi galw amdanyn nhw ers tro fel bod gan Gymru’r senedd sydd ei hangen arni.

“Mae cynrychiolaeth menywod yn bwysig. Pan fydd lleisiau amrywiol yn yr ystafell trafodir gwahanol faterion a gwneir penderfyniadau gwell. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam hollbwysig i sicrhau bod ein Senedd yn cynrychioli’n well y cymunedau y mae’n ei gwasanaethu.

“Fodd bynnag, mae mwy o waith i’w wneud. Nid oes gennym gynrychiolaeth deg o hyd o bobl o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a grwpiau eraill y mae eu hanghenion yn cael eu hanwybyddu’n rhy aml gan y rhai sydd mewn grym.

“Mae’r penderfyniadau a wneir gan Aelodau’r Senedd yn effeithio ar bob rhan o’n bywydau, ac mae’n hanfodol bod y penderfyniadau hyn yn cael eu llywio gan leisiau amrywiol er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pawb.

“Rhaid i’n Senedd – ein democratiaeth – fod yn wirioneddol gynrychioliadol o’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Mae cyhoeddiad heddiw yn gam pwysig tuag at hyn.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr