1. Cyd-destun:
1.1. Chwarae Teg yw prif elusen cydraddoldeb rhywiol Cymru, sy’n ymgyrchu i greu Cymru lle gall menywod gyflawni a ffynnu ym mhob maes mewn bywyd.
1.2. Canfu ymchwil ddiweddar gan Chwarae Teg y gallai cyflawni Cydraddoldeb Rhywiol llawn ychwanegu £13.6 biliwn at economi Cymru os caiff cyfraddau cyflogaeth dynion a menywod, yr oriau a weithir a chyfartaledd cynhyrchiant eu cydgyfeirio’n llawn. Mae’r dystiolaeth hon yn dangos sut mae creu tirwedd lle gall menywod gymryd rhan yn llawn yn y farchnad lafur fod o fantais i bawb mewn cymdeithas.
1.3. Mae llawer o’r rhwystrau a wynebir gan fenywod i gyflawni eu potensial yn gysylltiedig â mynd at y farchnad lafur a symud ymlaen ynddi. Mae menywod yn parhau i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am ofal plant a’r henoed, sy’n golygu’n aml eu bod yn cyfaddawdu ar ddod o hyd i waith sy’n adlewyrchu lefel eu sgiliau a’u cymhwyster o blaid hyblygrwydd. Felly, caiff arferion gweithio modern eu datgan yn aml fel ateb i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau hyn, a chreu marchnad lafur sy’n gweddu’n fwy i’n gweithlu mwyfwy amrywiol.
1.4. Mae Chwarae Teg yn cydnabod manteision Arferion Gweithio Modern i greu a chefnogi gweithleoedd amrywiol sy’n cynrychioli cymdeithas fodern. Rydym wedi meithrin dealltwriaeth o’r manteision hyn trwy’n hymchwil ac rydym wedi gweithio gyda Chyflogwyr i hyrwyddo’r arfer hwn trwy’n rhaglenni Cenedl Hyblyg 2 a Chyflogwr Chwarae Teg,.
1.5. Yng nghyd-destun y farchnad lafur newidiol; gan gynnwys newid demograffig gweithwyr, newidiadau i’r gweithle ei hun, a blaenoriaethau’n symud ar gyfer gwaith; rydym am ystyried a ydyn ni yng Nghymru’n llwyr ymwybodol o fanteision posibl Arferion Gweithio Modern. Rydym am ystyried y rôl y gall Arferion Gweithio Modern ei chwarae wrth alluogi’n gweithleoedd i addasu i’r heriau lleol a byd-eang hyn, ac yng nghyd-destun uchelgeisiau ehangach, fel yr agenda Gwaith Teg, a’r newidiadau i’r dirwedd economaidd.
2. Egwyddorion y Comisiwn
2.1. Yn sail i’r Comisiwn hwn fydd yr egwyddor y dylai gwaith modern adlewyrchu a chynrychioli’n cymdeithas fwyfwy amrywiol a chydgysylltiedig.
2.2. Dylai gwaith y Comisiwn adlewyrchu’r syniadau newydd ac arloesol ac aros o flaen arfer gorau sy’n ymwneud â gwaith modern.
2.3. Dylai gwaith y Comisiwn gymryd dull a danlinellwyd gan egwyddor tegwch. Dylai gydnabod gwahanol amgylchiadau a phrofiadau gwahanol grwpiau o bobl mewn gwaith, a sut mae hyn yn ffurfio mynediad unigolion i’r farchnad lafur a’u safle ynddi. Gyda’r ymwybyddiaeth hon, dylai’r Comisiwn ganolbwyntio ar ffurfio a chyfrannu tuag at dirwedd economaidd lle gall unigolion o bob cefndir a gallu gyflawni eu potensial.
2.4. Dylai’r Comisiwn hefyd gydnabod na ddylai gweithredu a throi at arferion gweithio modern a mwy o hyblygrwydd yn y gwaith olygu ac nid yw’n golygu cyfnewid diogelwch, cyflog, amodau a dilyniant.
3. Rôl a Phwrpas y Comisiwn:
3.1. Ymchwilio a oes digon o ymwybyddiaeth o wahanol fuddiannau arferion gweithio modern
3.2. Ystyried ydy Arferion Gweithio Modern yn darparu rhai o’r offer y mae ar sefydliadau eu hangen i addasu ar gyfer dyfodol gwaith, a darparu ar gyfer cymdeithas fwyfwy amrywiol.
3.3. Ystyried cwmpas y grym yng Nghymru a pha liferi y mae angen eu defnyddio i hyrwyddo ac annog arfer gweithio modern i greu’r symud diwylliannol y mae angen i ni ei weld. Dylai’r Comisiwn ystyried rôl Llywodraeth, Busnes, Cymdeithas Sifil ac eraill yn y gweithlu.
3.4. Ystyried y cwestiynau hyn o fewn tair thema ehangach:
3.4.1. Y ffordd y mae gwaith yn newid yn allanol - Ystyried y cyd-destun byd-eang ehangach gan gynnwys awtomeiddio, defnydd cynyddol o dechnoleg, a phwyslais ar gynaliadwyedd ac impact amgylcheddol.
3.4.2. Y ffordd y mae gwaith yn newid yn fewnol – Yr effaith y mae sifftiau demograffig yn ei chael ar y gweithle; o ran y grwpiau amrywiol o bobl sydd o fewn y gweithle ar un adeg a’u gwahanol flaenoriaethau a disgwyliadau ar gyfer gwaith.
3.4.3. Y gweithle ei hun – Beth yw gweithleoedd modern? Sut cânt eu dylunio? Pa wahaniaethau a nodweddion sector y mae angen eu hystyried? Pa effaith y mae hyn yn ei chael ar ddiwylliant y gweithle a chyfunoliaeth gweithwyr, a beth fydd rôl cyrff traddodiadol fel undebau llafur yn y gweithleoedd modern hyn?
3.5. Casglu adnoddau ac enghreifftiau ac adeiladu achos busnes ar gyfer Arferion Gweithio Modern
3.6. Ystyried model o fesur a monitro ansawdd gwaith modern sy’n mynd y tu hwnt i gost neu fetreg nodweddiadol
4. Aelodaeth a Strwythur
4.1. Bydd y Comisiwn yn cynnwys arbenigwyr ar draws busnes, cymdeithas sifil, academia, undebau llafur ac yn dal cymysgedd o brofiad a gafodd ei fyw ar wahanol lefelau yn ogystal ag arbenigedd polisi.
4.2. Rôl aelodau fydd bwydo profiad ac arbenigedd sy’n cynrychioli eu sefydliadau a’u sectorau priodol a chefnogi’r gwaith o gasglu a choladu’r dystiolaeth
4.3. Bydd Cam Un y Comisiwn yn rhedeg tan fis Ebrill 2020 a bydd yn cael ei ffurfio i ddechrau gan yr ymatebion i Alwad am Dystiolaeth a redir gan Chwarae Teg. Bydd y Cam nesaf yn cael ei symud ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.
4.4. Bydd y Comisiwn yn cael ei gefnogi gan ysgrifenyddiaeth a ddarperir gan Chwarae Teg.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Comisiwn, cysylltwch â Polly Winn yn [email protected] neu 07852 965580