Yr hyn rydyn ni’n ei wybod:

  • Mae’r anghydraddoldeb presennol yn golygu y bydd profiadau menywod o’r coronafeirws yn wahanol i brofiadau dynion ohono. Bydd y profiadau hyn yn arbennig o amlwg i fenywod sy’n wynebu anfantais ychwanegol, gan gynnwys menywod BAME, menywod anabl, menywod hŷn a menywod ar incwm isel.
  • Mae sefyllfa menywod yn y gwaith – yn y rheng flaen mewn rolau iechyd, manwerthu a gofal; ac mewn sectorau lle mae’r argyfwng yn cael effaith niweidiol fel lletygarwch – yn eu rhoi mewn perygl o golli eu swyddi, gorfod cymryd absenoldeb di-dâl, neu ddod i gysylltiad â’r firws.
  • Mae’r prif ofalwyr ar gyfer plant a pherthnasau oedrannus yn dueddol o fod yn fenywod; gyda chau ysgolion a lleoliadau gofal plant, mae menywod bellach yn cael eu gorfodi i gydbwyso’r cyfrifoldebau hyn ynghyd â’u gwaith, heb gefnogaeth ffurfiol.
  • Mae menywod mewn perygl drwy gydol yr argyfwng hwn o fynd i dlodi, ac wynebu camdriniaeth a thrais yn eu cartrefi tra bod y cyfyngiadau ar symud mewn grym.

Yr hyn rydyn ni’n gofyn amdano:

  • Bod profiadau menywod yn llywio ymateb y Llywodraeth a busnesau i’r argyfwng er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu hesgeuluso
  • Bod menywod sy’n gweithio ar y rheng flaen yn cael eu diogelu, gyda Chyfarpar Diogelu Personol (PPE), darpariaeth gofal plant a chymorth digonol i deithio’n ddiogel i’r gwaith
  • Adolygu’r ddarpariaeth bresennol o nawdd cymdeithasol er mwyn sicrhau bod gan fenywod amddiffyniad digonol, o ran Credyd Cynhwysol a Thâl Salwch Statudol (SSP)
  • Bod busnesau’n addasu i gefnogi rhieni o fewn eu gweithlu i gydbwyso gwaith a gofal, a sicrhau na chaiff rhieni eu cosbi am gyflawni rolau gofalu drwy gydol yr argyfwng hwn.
  • Diogelu menywod sydd mewn perygl o drais a chamdriniaeth yn eu cartrefi yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau ar symud
  • Adferiad economaidd ffeministaidd yn dilyn Covid-19, gan sicrhau ein bod yn achub ar y cyfle hwn i ailgodi’n gryfach a pheidio â gadael i’r anghydraddoldeb, sydd wedi dwysáu yn ystod yr argyfwng hwn, waethygu i fenywod yng Nghymru.

Darllenwch ein papur briffio ar Adferiad Economaidd Ffeministaidd i Gymru yma

Beth rydyn ni’n ei wneud:

  • Darllenwch gofnodion ein sesiwn friffio ar Fenywod a Covid-19 i weld ein hargymhellion ar gyfer y Llywodraeth
  • Rydym wedi addasu’n dull o gyflwyno ein prosiect Cenedl Hyblyg 2 er mwyn sicrhau y gallwn ni ddal i gefnogi menywod a busnesau i ddatblygu a gwella eu harferion gwaith.
  • Rydyn ni’n gweithio ac yn cydlynu â sefydliadau menywod eraill er mwyn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau menywod yn cael eu clywed a’u deall drwy gydol yr argyfwng hwn. Darllenwch ein datganiad ar y cyd â Chymdeithas Fawcett
  • Rydyn ni’n cefnogi busnesau i addasu eu ffyrdd o weithio. Darllenwch ein canllawiau ar weithio ystwyth
  • Rydyn ni’n gweithio i gasglu a chofnodi profiadau menywod o’r coronafeirws er mwyn deall ei effaith, a sicrhau ein bod mewn gwell sefyllfa i ymateb. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi’n fuan.
  • We are working and coordinating with other women’s organisations to ensure women’s voices and experiences are heard and understood throughout this crisis. Read our joint statement with Fawcett Society
  • We are supporting businesses to adapt their ways of working. Read our guidance on agile working
16th Mar 2020
Is this the end of traditional office working?
Post
  • We are working to collect and record women’s experience of coronavirus to understand its impact, and ensure we are better equipped to respond.

Hyfforddiant ar-lein am ddim

Mae hyfforddiant ar-lein am ddim yn cael ei gynnig i’r rhai sydd ar ffyrlo oherwydd y Coronafeirws.

Mae hyfforddiant ar gael drwy OpenLearn y Brifysgol Agored, Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein Busnes Cymru (BOSS), a Gyrfa Cymru.

Diogelwch menywod

I lawer o fenywod sydd mewn perygl neu’n profi camdriniaeth neu drais domestig, nid aros gartref drwy gydol yr argyfwng hwn yw’r opsiwn mwyaf diogel.

Mae cefnogaeth gan y Llywodraeth i fenywod sy’n profi camdriniaeth neu drais yn parhau i fod ar agor ac ar gael 24/7. Chewch chi ddim dirwy am adael y tŷ os ydych chi mewn perygl yn ystod y pandemig hwn. Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru yn agored ac ar gael ar gyfer galwadau neu negeseuon testun ar unrhyw adeg.

Peidiwch â dioddef yn dawel. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

Cyswllt Live Fear Free

28th Apr 2020