Our campaign celebrates inspiring role models for women in Wales.
Mae Tahirah wedi bod yn gysylltiedig â Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru ers dros 5 mlynedd bellach, tra’n cyfrannu i'r gymuned ac yn mwynhau pob munud ohono. O gynlluniau chwarae i glwb gwaith cartref, mae’n teimlo bod gweithio gyda gwahanol grwpiau cymunedol wedi’i ffurfio fel unigolyn ifanc.
Ganed bydwraig y flwyddyn 2006, Vernesta Cyril yn St Lucia ond gadawodd yn 1962 i ddilyn gyrfa mewn nyrsio a bydwreigiaeth yn y DU.
Dros gyfnod o 30 mlynedd, daeth â dros 2000 o fabanod i’r byd a chafodd ei chydnabod am ei gwasanaeth yn 2006 pan enillodd wobr Bydwraig y Flwyddyn y DU.
Gwleidydd Cymraeg, sydd wedi cynrychioli Ceredigion i Blaid Cymru fel aelod o'r Senedd ers 1999, ac sydd wedi bod yn Llywydd y Senedd ers 2016. Bu Elin ar Gyngor Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999 a hi oedd Maer ieuangaf Aberystwyth yn nhymor 1997-98. Ar 9 Gorffennaf 2007, ffurfiwyd Llywodraeth Cymru’n Un a phenodwyd Elin yn Weinidog dros Faterion Gwledig. Nawr Elin yw Llywydd Senedd Cymru.
Dechreuodd gyrfa canu unigol a theledu Caryl yn yr 80au. Daeth yn gyflwynydd rhaglenni plant ac yn fuan daeth yn ffefryn cadarn gyda'r cyhoedd yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae Caryl yn cyflwyno sioe frecwast BBC Radio Cymru 2 ac mae Caryl yn ymddangos yn rheolaidd mewn gigs lle mae'n perfformio ei deunydd ei hun yn ogystal â threfniadau o ganeuon eraill cyfarwydd ac yn cymysgu'r gerddoriaeth gyda'i brand ei hun o gomedi.
Gwnaeth Kate Bosse-Griffiths gyfraniad unigryw i lenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif a chofir amdani fel Eifftolegydd Cymreig nodedig.
Fe’i ganwyd ar 16 Mehefin 1910 ac enillodd ddoethuriaeth yn y Clasuron ac Eifftoleg o Brifysgol München ym 1935.
Mae Elizabeth (Betsi) Cadwaladr wedi rhoi ei henw i'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ganed Betsi ar 24 Mai 1789, yn Llanycil, ger y Bala, ac fe’i magwyd ar Fferm Pen Rhiw yn un o 16 o blant. Bu farw ei mam pan oedd hi’n bum mlwydd oed. Gweithiodd Betsi fel nyrs yn Rhyfel y Crimea wrth ochr Florence Nightingale.