Ynglŷn â’r Placiau Porffor
Lansiwyd y Placiau Porffor ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017, gan grŵp o wirfoddolwyr a oedd am goffáu Val Feld, y cyn Aelod Cynulliad. Nod yr ymgyrch yw gwella’r ffordd mae menywod hynod yng Nghymru’n cael eu cydnabod a dyfarnu Plac Porffor iddynt i goffáu eu cyflawniadau ac i ategu eu gwaddol i hanes Cymru.
Mewn partneriaeth â Chwarae Teg, bydd y Placiau Porffor yn amlygu ac yn anrhydeddu menywod ledled Cymru sydd wedi cael effaith barhaol ar eu cymunedau ac sydd hyd yma heb eu dathlu na’u cynnwys yn y llyfrau hanes o gwbl.
Ar hyn o bryd, amcangyfrifir bod tua 250 o blaciau glas yn coffáu unigolion nodedig yng Nghymru, gyda’r mwyafrif llethol ohonynt yn dathlu llwyddiannau dynion, ac eithrio rhyw ddwsin yn unig sy’n dathlu menywod. Nod y Placiau Porffor yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwn a rhoi lle blaenllaw i fenywod mewn hanes.
Y gobaith yw y bydd pobl o bob cwr o Gymru’n gweld hyn fel cyfle i gofio ac anrhydeddu ein menywod anhygoel yng Nghymru. Rydym yn gwahodd y cyhoedd i ystyried menywod anhygoel o Gymru i dderbyn Plac Porffor.