Tuag at Gydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru: Ymateb i Economi sy’n Trawsnewid

4th July 2022

Mae ein byd economaidd yn trawsnewid ar gyfradd na welwyd ei debyg.

Yn wyneb tueddiadau mawr, fel digidoleiddio a’r angen i bontio tuag at economi gwyrdd, rhaid i ni ofyn i ni’n hunain pa fath o economi ydyn ni eisiau yn y dyfodol.

Mae’r ffaith bod ein heconomi’n trawsnewid yn effeithio’n wahanol ar fenywod a grwpiau ymylol eraill. Mae effeithiau gwaethaf y tueddiadau hyn nid yn unig yn effeithio arnyn nhw’n anghyfartal, ond mae menywod a grwpiau ymylol eraill yn llai tebygol o fanteisio ar y cyfleoedd a grëir gan y trawsnewid hwn.

Wrth i’n heconomi a’n bywydau ddod yn fwyfwy dibynnol ar dechnoleg, mae menywod yn wynebu peryglon gwahanol fel colli swyddi a newid swyddi yn sgil awtomeiddio ac maen nhw hefyd yn cael eu tangynrychioli yn y sectorau sy’n debygol o weld twf mewn rolau sy’n gofyn am sgiliau ac sy’n talu’n dda. Mae rhagfarn mewn technoleg ddigidol a mynediad i dechnoleg ddigidol hefyd â’r potensial i wreiddio anghydraddoldeb ymhellach.

Mae menywod hefyd yn cael eu heffeithio i raddau helaethach gan yr argyfwng hinsawdd a hefyd yn llai tebygol o fanteisio ar fuddsoddiad gan y llywodraeth a swyddi a hyfforddiant newydd a grëir o ganlyniad i sero net.

Er eu bod yn agored i’r perygl mwyaf o’r tueddiadau trawsnewidiol yn ein heconomi, mae gormod o strategaethau allweddol a chynlluniau gweithredu sy’n ffurfio ein hymateb i ddigidoleiddio a’n trawsnewidiad i economi gwyrdd yn ddall o ran rhywedd, ac yn dangos braidd dim dadansoddiad cydraddoldeb ac felly’n methu o ran cydnabod anghydraddoldebau presennol ac effaith y polisi ar grwpiau gwahanol.

Rhaid i’r llywodraeth a busnesau sicrhau nad ydyn ni, wrth i ni fyw drwy’r gwrthryfel diwydiannol nesaf, yn gwreiddio’n ddyfnach yr anghydraddoldeb sy’n bod ers tro ac sy’n parhau i ffurfio bywyd gormod o bobl.

Yn yr ymchwil hwn, rydym ni’n amlinellu nifer o weithrediadau ymarferol i’r llywodraeth a chyflogwyr er mwyn sicrhau pontio teg i economi gwyrdd, wrth ymateb hefyd i heriau a chyfleoedd digidoleiddio

Argymhellion

  1. Dylai Llywodraeth Cymru roi’r argymhellion a amlinellir yn ein Maniffesto ar gyfer Cydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru ar waith i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol o anghydraddoldeb rhywedd law yn llaw â’r argymhellion penodol a amlinellir yn yr adroddiad hwn.
  2. Dylai Llywodraeth Cymru gyflymu’r broses o roi’r argymhellion a amlinellir yn yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd, Gwneud nid Dweud sy’n mapio’r ffordd i brif ffrydio cydraddoldeb mewn modd clir.
Er mwyn gwneud yn siŵr bod digoleiddio'n sicrhau canlyniadau teg: 
  1. Dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr gynnal dadansoddiad/gwerthusiad o effeithiau awtomeiddio ar gydraddoldeb yn eu gweithle bob dwy flynedd. Dylid cyhoeddi’r dadansoddiad hwn.
  2. Dylai Llywodraeth Cymru dreialu rhaglen ar gyfer newid gyrfa sy’n cael ei ddigidoleiddio, gan ganolbwyntio ar fenywod a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli mewn swyddi digidol.
  3. Dylai Llywodraeth Cymru greu llwybr clir yn y sector digidol o lefel prentisiaeth hyd at lefel gradd. Dylai’r llwybr hwn gyd-fynd â chamau gweithredu wedi’u targedu i gynnwys mwy o fenywod a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli yn y sector digidol.
  4. Dylai Llywodraeth y DU fonitro ac adrodd ar faterion sy’n ymwneud â rhagfarn mewn deallusrwydd artiffisial a thechnoleg ddigidol:
    • Dylid creu system glir i roi gwybod am ragfarn.
    • Dylid cyhoeddi rhagfarn yn gyhoeddus er mwyn helpu i ddeall graddfa rhagfarn ddigidol a chyflwyno gwelliannau i ymchwil, datblygu a gwerthuso arloesedd digidol.
  5. Dylai Llywodraeth Cymru, o bosibl drwy’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, sicrhau bod y cynlluniau sgiliau digidol sydd ar gael yng Nghymru yn darparu lefel sylfaenol o sgiliau digidol, yn targedu cyfran y boblogaeth a ddylai gyrraedd y lefel sylfaenol hon a dyddiad cau ar gyfer cyrraedd y targed hwn.
  6. Dylai Llywodraeth y DU gydnabod band eang fel adnodd hanfodol, ar yr un lefel â thrydan, nwy a dŵr, gan roi rheoliad perthnasol ar waith i sicrhau bod pob aelwyd yn gallu fforddio cael band eang.
  7. Dylai Llywodraeth Leol sicrhau bod offer digidol ar gael drwy:
    • Sicrhau bod gan bob canolfan gymunedol ac ysgol offer digonol.
    • Roi cynlluniau ar waith i ailgylchu a rhoi ail fywyd i hen offer digidol i’r rhai ar incwm isel.
Er mwyn sicrhau proses gyfiawn o newid i economi werdd: 
  1. Dylai Llywodraeth Cymru greu llwybr gyrfa glir i swyddi STEM, sy’n canolbwyntio ar gefnogi menywod a grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Dylai’r llwybr hwn gynnwys gwell cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd, llwybrau cymwysterau cydnabyddedig, hyfforddiant a fframwaith prentisiaeth clir.
  2. Dylai Llywodraeth Cymru weithi gyda SAU i greu cymhwyster mewn agroecoleg, i gefnogi prosesau amaethyddol gwyrddach a chynnwys mwy o fenywod yn yr economi wledig.
  3. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadau diffiniad ehangach o ‘economi werdd’ sy’n mynd y tu hwnt i ddatgarboneiddio er mwyn creu Cymru carbon isel yn wirioneddol, a sut y mae hyn yn gysylltiedig â’r economi sylfaenol a lles.
  4. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn y sector gofal a chefnogi’r gwaith o newid i ffyrdd mwy gwyrdd o weithio a darparu swyddi o ansawdd da.
  5. Dylai Llywodraeth Cymru edrych ar botensial ôl-ffitio tai i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol drwy:
    • Blaenoriaeth cartrefi yn y cymunedau mwyaf difreintiedig i fynd i’r afael â thlodi tanwydd;
    • Gosod targed ar gyfer lenwi cyfran o’r holl swyddi a chyfleoedd hyfforddi a grëwyd drwy’r rhaglen ôl-ffitio gyda menywod a grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli yn y diwydiant adeiladu.
  6. Dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol ymrwymo i flaenoriaethu democratiaeth yn y broses o wneud penderfyniadau am newid hinsawdd a’r newid i economi werdd, gan gynnwys gwneud gwell defnydd o Gynulliad Dinasyddion ac adnoddau ymgysylltu cynhwysol eraill.
  7. Dylai cyflogwyr ystyried effeithiau newidiadau i bolisïau ac arferion yn y gweithle ar gydraddoldeb er mwyn trosglwyddo i ffyrdd mwy gwyrdd o weithio.
24th Sep 2019
Gender Equality Review
Project