Gwaith Ystwyth a Chynhwysol: Y Normal Newydd
Mae’r ffordd y trefnwn waith yn effeithio’n fawr ar fywydau beunyddiol pobl. Am ddegawdau, roedd gweithleoedd yn ffafrio dulliau eithaf traddodiadol o weithio, gyda phobl yn gweithio’n rheolaidd yn y swyddfa, ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm. Er bod hyn yn gweithio i rai, i eraill mae’r anhyblygrwydd o ran sut a phryd y byddan nhw’n gweithio yn eu rhwystro i ddod o hyd i waith a chamu yn eu blaen. Mae pobl â chyfrifoldebau gofalu yn teimlo hyn yn fwy na neb; ac yn amlach na pheidio, menywod ydyn nhw. Felly, mae sicrhau patrymau gweithio mwy hyblyg ac ystwyth yn hollbwysig er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn y farchnad lafur.
Mae’r pandemig Covid-19 wedi trawsnewid y ffordd y mae nifer o bobl yn gweithio ac yn byw eu bywydau, ac fe ddigwyddodd hynny dros nos fwy neu lai. Mae llawer mwy o bobl yn gweithio gartref erbyn hyn, ac o ganlyniad mae nifer o gyflogwyr yn awr yn ailystyried sut y maen nhw’n mynd ati i strwythuro a threfnu eu gweithleoedd. Erbyn hyn, mae’r rhwystrau a oedd gynt yn atal pobl rhag gweithio’n hyblyg a gweithio gartref wedi cael eu goresgyn – neu efallai mai rhwystrau ymddangosiadol yn unig oedden nhw.
Wrth i’r newid aruthrol a pharhaol hwn yn y ffordd y trefnwn ein gwaith ennill ei blwyf, rhaid inni sicrhau bod y ffordd y gweithiwn yn awr ac yn y dyfodol yn ystwyth ac yn gynhwysol, er mwyn i’n gwaith gyfrannu mewn modd cadarnhaol at gydraddoldeb, heb ail-greu nac atgyfnerthu’r anghydraddoldeb a welwn ar hyn o bryd. Golyga hyn waith sy’n cynnig hyblygrwydd, dewis ac ymreolaeth; gwaith sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach nag ar amser; gwaith sy’n canolbwyntio ar unigolion.
Yn ystod 2020 buom yn cynnal trafodaethau gyda rhanddeiliaid i archwilio patrymau gweithio ystwyth a chynhwysol a sut y mae hyn oll yn gysylltiedig â llesiant, arweinyddiaeth a rheoli, a gwaith teg. Aethom ati i ystyried pa wersi y gallai’r pandemig eu dysgu inni. Mae ein hadroddiad Gwaith Ystwyth a Chynhwysol: Y Normal Newydd yn dwyn ynghyd ganfyddiadau hollbwysig y trafodaethau hyn ac yn cynnig sawl argymhelliad ar gyfer bwrw ymlaen â’r agenda hon.
Rhaid i drafodaethau ynghylch gweithio ystwyth a chynhwysol fod yn ddynamig, a rhaid mynd ati i’w cynnal yn barhaus wrth inni barhau i ddysgu ac addasu ac wrth i dechnoleg newydd ddod i’r fei. Bydd y canfyddiadau a nodir yn ein hadroddiad yn cynnig sylfaen i’r trafodaethau hyn. Yr hyn sy’n amlwg yw bod yn rhaid rhoi lle blaenllaw i degwch a llesiant, oherwydd nid rhywbeth a fydd yn digwydd trwy ddamwain yw cydraddoldeb. Dim ond trwy anelu at gydraddoldeb a chynhwysiant fel nod ynddo’i hun y gallwn sicrhau y bydd y gweddnewidiad diweddaraf hwn yn y byd gwaith yn esgor ar degwch i bob un ohonom.