Mae menywod yng Nghymru yn rhannu llawer o’r un heriau drwy gydol eu bywydau gwaith, ond nid yw cyfleoedd a phrofiadau yn y gwaith yn cael eu siapio’n unigol yn ôl rhyw, ond gan ffactorau croestoriadol fel anabledd, ethnigrwydd, cenedligrwydd ac oedran.
Er mwyn sicrhau bod menywod yng Nghymru yn gallu cyflawni a ffynnu o fewn y gweithlu, ac er mwyn sicrhau canlyniadau cyfartal i bob menyw, mae’n hanfodol ein bod yn deall y profiadau croestoriadol amrywiol hyn.
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried profiadau menywod anabl; y rhwystrau y maent wedi’u hwynebu yn y gwaith a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Mae’n amlygu ble mae’r profiadau hyn wedi cael eu llunio gan anabledd a rhyw; gan dynnu sylw at y gwahaniaethau rhwng menywod a dynion anabl.
Rydym yn gobeithio y bydd yr argymhellion a wneir ar gyfer cyflogwyr, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn yn cael eu datblygu, ac y gellir defnyddio profiadau’r menywod hyn i lywio’r broses o wneud penderfyniadau er mwyn gwneud y siŵr y gallwn sicrhau canlyniadau cyfartal ar gyfer pob menyw.