Mae ein byd economaidd yn trawsnewid ar gyfradd na welwyd ei debyg.
Yn wyneb tueddiadau mawr, fel digidoleiddio a’r angen i bontio tuag at economi gwyrdd, rhaid i ni ofyn i ni’n hunain pa fath o economi ydyn ni eisiau yn y dyfodol.
Mae’r ffaith bod ein heconomi’n trawsnewid yn effeithio’n wahanol ar fenywod a grwpiau ymylol eraill. Mae effeithiau gwaethaf y tueddiadau hyn nid yn unig yn effeithio arnyn nhw’n anghyfartal, ond mae menywod a grwpiau ymylol eraill yn llai tebygol o fanteisio ar y cyfleoedd a grëir gan y trawsnewid hwn.
Wrth i’n heconomi a’n bywydau ddod yn fwyfwy dibynnol ar dechnoleg, mae menywod yn wynebu peryglon gwahanol fel colli swyddi a newid swyddi yn sgil awtomeiddio ac maen nhw hefyd yn cael eu tangynrychioli yn y sectorau sy’n debygol o weld twf mewn rolau sy’n gofyn am sgiliau ac sy’n talu’n dda. Mae rhagfarn mewn technoleg ddigidol a mynediad i dechnoleg ddigidol hefyd â’r potensial i wreiddio anghydraddoldeb ymhellach.
Mae menywod hefyd yn cael eu heffeithio i raddau helaethach gan yr argyfwng hinsawdd a hefyd yn llai tebygol o fanteisio ar fuddsoddiad gan y llywodraeth a swyddi a hyfforddiant newydd a grëir o ganlyniad i sero net.
Er eu bod yn agored i’r perygl mwyaf o’r tueddiadau trawsnewidiol yn ein heconomi, mae gormod o strategaethau allweddol a chynlluniau gweithredu sy’n ffurfio ein hymateb i ddigidoleiddio a’n trawsnewidiad i economi gwyrdd yn ddall o ran rhywedd, ac yn dangos braidd dim dadansoddiad cydraddoldeb ac felly’n methu o ran cydnabod anghydraddoldebau presennol ac effaith y polisi ar grwpiau gwahanol.
Rhaid i’r llywodraeth a busnesau sicrhau nad ydyn ni, wrth i ni fyw drwy’r gwrthryfel diwydiannol nesaf, yn gwreiddio’n ddyfnach yr anghydraddoldeb sy’n bod ers tro ac sy’n parhau i ffurfio bywyd gormod o bobl.
Yn yr ymchwil hwn, rydym ni’n amlinellu nifer o weithrediadau ymarferol i’r llywodraeth a chyflogwyr er mwyn sicrhau pontio teg i economi gwyrdd, wrth ymateb hefyd i heriau a chyfleoedd digidoleiddio
Argymhellion
- Dylai Llywodraeth Cymru roi’r argymhellion a amlinellir yn ein Maniffesto ar gyfer Cydraddoldeb Rhywedd yng Nghymru ar waith i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol o anghydraddoldeb rhywedd law yn llaw â’r argymhellion penodol a amlinellir yn yr adroddiad hwn.
- Dylai Llywodraeth Cymru gyflymu’r broses o roi’r argymhellion a amlinellir yn yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd, Gwneud nid Dweud sy’n mapio’r ffordd i brif ffrydio cydraddoldeb mewn modd clir.