Mae angen i fwy o fenywod ymrwymo
26th September 2013
Fel rhan o Wythnos y Senedd 2013 rydym wedi ymuno â nifer o bartneriaid i annog mwy o fenywod i ymrwymo i fywyd cyhoeddus.
Mae hyn yn bwysig gan nad yw menywod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn gwleidyddiaeth nac mewn bywyd cyhoeddus o Gynghorau Plwyf i Lywodraeth Cymru a thu hwnt. Gan fod y rolau hyn yn dylanwadu ar y byd o’n cwmpas, mae’n hanfodol bwysig i ni annog llawer mwy o fenywod i weithio ym mywyd cyhoeddus.
Ar gyfer menywod, mae bod yn rhan o fywyd cyhoeddus a’n prosesau democrataidd yn llwybr gyrfa gwerth chweil sy’n helpu i wneud cyfraniad gwirioneddol a chadarnhaol i gymdeithas yng Nghymru.
Mae’n her bwysig i ni weithio at sefyllfa lle mae gan fenywod gynrychiolaeth gyfartal ym mywyd cyhoeddus yng Nghymru. Ar gyfer Wythnos y Senedd eleni rydym wedi ymuno ag:
Wythnos y Senedd
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus
Merched yn Gwneud Gwahaniaeth
Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol
Byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn yr hydref wedi’u noddi gan Rosemary Butler AC fel rhan o ymgyrch ‘Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus’.
19 Tachwedd, Canolfan Merched Gogledd Cymru, Y Rhyl, 12-2pm
22 Tachwedd, Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, 12-2pm
Yn y digwyddiadau hyn, byddwn yn dod â’r menywod sydd eisoes yn rhan o fywyd cyhoeddus ynghyd â’r rhai sy’n awyddus i wybod mwy at ei gilydd i rannu eu barn a’u profiadau.
Mae’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim a’u bwriad yw canfod ffyrdd o annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Bydd y digwyddiadau’n cynnwys:
-
Straeon gan fenywod ysbrydoledig
-
Siaradwyr, gan gynnwys Steve Brooks – Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
-
Trafodaethau grŵp ac adborth i banel o arbenigwyr sydd wedi’i ddewis yn ofalus.
Mae galw mawr am le yn y digwyddiad hwn felly os hoffech ei fynychu, gwnewch gais am le cyn gynted â phosib drwy:
“Os nad yw’r bobl sy’n ein cynrychioli ni yn gwneud hynny yng ngwir ystyr y gair, sut allwn ni ddisgwyl iddyn nhw ddeall menywod a’r materion sy’n eu hwynebu?”
- Joy Kent, Prif Weithredwr
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gallu mynychu’r digwyddiad; mae yna ddwy ffordd wych y gallwch chi helpu menywod i ymrwymo - rydym ni angen eich profiadau chi!
Yn gyntaf, ar 8 Hydref, rydym yn cynnal sesiwn fideo yn ein swyddfa yn Llys Angor, Caerdydd, rhwng 5pm a 6.30pm. Yr oll sydd angen i chi wneud yw galw heibio a byddwn ni’n eich recordio yn adrodd eich stori. Mae mor syml â hynny; does dim angen profiad o gael eich ffilmio oherwydd bydd ein tîm wrth law i’ch helpu.
Bydd y cynnwys fideo yn rhan o’r cyflwyniad yn y digwyddiad yn Adeilad y Pierhead a byddwch yn chwarae rhan bwysig yn helpu menywod eraill i ystyried cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.
E-bostiwch [email protected] neu ffoniwch 029 2047 8900 i roi gwybod faint o’r gloch yr hoffech alw draw.
Your Stories
Debbie’s story |
|
Hailey’s story
|
|
Sue's Story |
Gallwch hefyd helpu drwy ysgrifennu’ch stori a’i rhannu gyda ni. Byddwn yn cyhoeddi’r storïau ar flog Chwarae Teg ac yn eu hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasu.
Bydd rhannu’ch profiad yn helpu i ysgogi menywod eraill i ystyried chwarae rhan ym mywyd cyhoeddus.
Dyma ambell awgrym i’ch helpu i baratoi eich stori:
Hyd
Mae oddeutu 500 gair yn berffaith – tua 1 dudalen A4
Strwythur
Cyflwyniad: Cyflwynwch eich hun yn fyr ac esboniwch eich rôl ym mywyd cyhoeddus.
Pam: Bydd darllenwyr yn awyddus i glywed pam y penderfynoch chi gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus – mae hyn yn elfen allweddol o’ch stori. A gawsoch chi eich ysbrydoli gan rywun? A wnaeth athro eich annog? A fu digwyddiad penodol yn eich bywyd yn hwb i chi?
Sut: Esboniwch yr hyn a wnaethoch i gael eich rôl ym mywyd cyhoeddus. Mae hyn hefyd yn amser da i annog menywod eraill i’w helpu i weithredu ar eu diddordeb.
Beth: Yma gallwch chi sôn am y gwahanol rolau oedd yn gymorth i chi gyrraedd lle rydych chi heddiw.
Mae croeso i chi sôn am unrhyw uchelgais sydd gennych hefyd.
Awgrym: Un ffordd o orffen eich stori yw rhoi awgrymiadau a chyngor yn seiliedig ar eich profiad.
Cyflwyno
E-bostiwch eich storïau at [email protected]
Os yn bosib, atodwch lun o’ch hunan i helpu i ddod a’ch stori’n fyw.
Bydd Anwen yn eich e-bostio i gadarnhau pryd fydd eich stori yn cael ei chyhoeddi.
Gallwch hefyd ddilyn ein negeseuon trydar am Wythnos y Senedd drwy ein dilyn ni ar Twitter