Pwy yde ni?

Y prif asiantaeth ar gyfer datblygu economaidd i fenywod yng Nghymru. Sefydlwyd ym 1992, mae Chwarae Teg yn cefnogi, datblygu ac ymestyn rôl menywod yn yr economi Gymreig. Yn wreiddiol, sefydlwyd Chwarae Teg gan gonsortiwm o asiantaethau sector cyhoeddus ond bellach mae’n gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn elusen gofrestredig.

Rydym yn credu na fydd yr economi Gymreig yn cyrraedd ei llawn botensial oni fydd pob unigolyn yn cael cyfle cyfartal i gyfrannu.
Mae menywod yn chwarae rôl fwy yn yr economi nag erioed o’r blaen, ond maent yn parhau i wynebu rhwystrau mewn addysg, cyflogaeth a mentergarwch sydd yn rhwystro nifer rhag datblygu eu sgiliau a’u gyrfaoedd.
Mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn cael ei gyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Ewrop gydag incwm o aelodaeth a gweithgareddau ymgynghorol yn cefnogi ein gweithgareddau ymhellach.

Ennillwyr Gwobr Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau 2006;
Gwobr Blaenllaw Prowess 2005;Gwobr Val Feld y Western Mail 2004


Last Updated: 07/03/2007 10:47:33 By Sian Baird Murray

Hosted By eInfinity