Mae datblygiad addysg a sgiliau yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer newid yng Nghymru. Trwy roi cyfle i fenywod ddysgu sgiliau newydd, ymgymryd â rolau gwahanol a dringo’r ysgol yrfaol byddai rhan helaeth o’r boblogaeth yn weithgar yn yr economi Gymreig am y tro cyntaf erioed.
Ar y cyd gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a nifer o sefydliadau eraill, mae Chwarae Teg yn helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu menywod sy’n dymuno datblygu ei sgiliau ac ymgymryd â chyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth.
Mae Chwarae Teg yn gweithredu nifer o weithgareddau ar draws ei bortffolio Addysg a Sgiliau.
Mae Chwarae Teg yn ceisio hyrwyddo cydraddoldeb o fewn addysg ac hyfforddiant trwy:
Yn ystod 2005, cydweithiodd Chwarae Teg gyda’r Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal i ymgymryd â gwaith ymchwil mewn i “Cydraddoldeb Rhyw mewn Prentisiaethau Modern yng Nghymru”. Cafodd yr adroddiad ei lawnsio gan y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.
Yn ddiweddar, rydym wedi paratoi cynnig yn amlinellu y mentrau posib i gyflwyno gweithredoedd cydraddoldeb sy’n codi o Gynllun Gwaith Llwybrau Dysgu 14 – 19 Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Roedd Prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Ready SET Go, a gafodd ei ariannu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru gydag arian cyfatebol gan Chwarae Teg a Gyrfaoedd Cymru wedi cael ei weithredu’n llwyddiannus yn ardaloedd Amcan Un Cymru yn 2005. Hyd yn hyn, mae wedi darparu cefnogaeth/hyfforddiant i 220 o fenywod mewn sectorau annrhaddodiadol o gyflogaeth. Mae addysgwyr a chyflogwyr hefyd wedi elwa o’r prosiect gyda chefnogaeth a chyngor yn cael ei gynnig ar faterion cydraddoldeb ac amrywioldeb.
Last Updated: 08/03/2007 11:17:31 By Sian Baird Murray