Polisi Cyhoeddus, Ymchwil a Gwybodaeth

Mae’r strwythur polisi cyhoeddus yng Nghymru wedi newid yn gyfangwbl dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae gan Llywodraeth Cynulliad Cymru ddyletswydd llwyr i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ond mae heriau yn dal i fodoli. Mae’r gynrychiolaeth o fenywod Cymraeg yn San Steffan ac mewn apwyntiadau cyhoeddus yn gyffredinol yn dal i fod yn wan. Mae Chwarae Teg yn parhau i gyfrannu at a dylanwadu ar ddatblygiad polisi dros bortffolio Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Yr ymchwil a dorrodd dir newydd gan Chwarae Teg, “Rôl Menywod yn yr Economi Gymreig” 2002, oedd yr ymchwil cymharol cyntaf o’i fath.

Darn arall o waith ymchwil hanfodol a ymgymrodd Chwarae Teg oedd edrych ar effaith economaidd gofal “Y Ddadl Dros Ofal” 2003. Cafodd y gwaith hwn ei gomisynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dangosodd ein ymchwil fod nifer o fenywod yn methu a gweithio achos fod ganddynt gyfrifoldebau gofal am blant, henoed ac oedolion dibynnol. Rydym yn parhau i bwyso am waith pellach gan gyflogwyr, Llywodraeth Cynulliad Cymru a San Steffan ar y mater hwn.


Am ragor o wybodaeth ar waith ymchwil Chwarae Teg cliciwch yma.


Mae Chwarae Teg yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn ymgynghori ar ystod eang o’r rhaglenni Cronfa Strwythurol Ewropeaidd presennol a cafodd ei hethol fel aelod o’r Grwp Gweithredol Ffrwd Waith Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru yn paratoi ar gyfer y Rhaglenni Cyllido Ewropeaidd 2007-2013 yng Nghymru.


O dan y thema hon, datblygodd Chwarae Teg y bartneriaeth CYTGORD gyda Prifysgol Bangor, Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal a TUC Cymru. Nôd y prosiect, sy’n cael ei gyllido o dan rhaglen EQUAL, oedd i ymchwilio’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yng Nghymru. Cynhaliwyd digwyddiad yng Nghaerdydd yn 2005, a lawnsiodd ddechrau gweithgareddau trawscenedlaethol gyda partneriaid Ewropeaidd o’r Ffindir, Sbaen ac Awstria.


Am ragor o wybodaeth ar bartneriaeth CYTGORD cliciwch yma.

Last Updated: 08/03/2007 11:18:56 By Sian Baird Murray

Hosted By eInfinity