cefnogir y wefan gan
 
 

 

 

 
CHWILIO:
geiriau cymal
 

Ready SET go...

Mae Ready SET Go yn brosiect cyffrous i annog mwy o ferched i feysydd anhraddodiadol o hyfforddiant a chyflogaeth. Mae'n bwysig bod merched yn cael cyfle i wireddu eu potensial yn seiliedig ar eu doniau a'u diddordebau yn hytrach nag ar eu rhyw, a dylid cynnig yr un cyfle iddynt ddilyn pa bynnag yrfa a ddewisant. Trwy weithio gyda phartneriaid, nod y prosiect yw annog mwy o ferched i hyfforddiant a chyfleoedd gwaith anhraddodiadol trwy:

  • ddatblygu sesiynau hyfforddiant achrededig arbenigol i gynnwys datblygiad personol, codi hyder ac ymwybyddiaeth sgiliau
  • rhoi cefnogaeth i gael hyfforddiant pellach, profiad gwaith a swydd
  • rhoi hyfforddiant amrywiaeth i athrawon, addysgwyr ac ymgynghorwyr er mwyn helpu i leihau stereoteipio ar sail rhyw wrth gynnig cyngor a chefnogaeth
  • gweithio gyda chyflogwyr i godi ymwybyddiaeth ynghylch potensial recriwtio merched i feysydd anhraddodiadol a cheisio ymdrin â'r rhwystrau a wynebir gan ferched wrth iddynt ymuno â'r sectorau hynny.

Ar hyn o bryd, dim ond i ferched (16+) sy'n byw yn y siroedd Amcan 1 canlynol y mae'r prosiect ar gael:

Ynys Môn, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Tor-faen

Gellir talu costau gofal cofrestredig ar gyfer plant neu deulu a chymorth teithio

Os ydych chi:

  • yn fenyw sy'n ystyried gyrfa newydd
  • yn adnabod unrhyw fenyw a fyddai'n elwa o'r prosiect – rhywun sydd eisiau newid cyfeiriad neu a hoffai ddechrau rhywbeth newydd
  • yn gyflogwr sy'n gweithio ym maes gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg neu unrhyw sector arall lle nad yw merched wedi eu cynrychioli'n gyfartal, ac os hoffech chi wybod mwy am ymuno â'r prosiect
  • eisiau derbyn mwy o wybodaeth

Cysylltwch â thîm Ready SET Go ar 01267 232434 neu e-bost: [email protected]

 

 

 

Cyrsiau Ready SET go
Gwasanaeth Tan
16/06/2006
Pontyclun, RCT
Cliciwch i agor/cau
Electrig Sylfaenol
19/06/2006
Aberteifi
Cliciwch i agor/cau
Delweddu Digidol
27/06/2006
Abertawe
Cliciwch i agor/cau
Electroneg
11/07/2006
Abertawe
Cliciwch i agor/cau

Beth sy'n newydd
Oriel luniau - cyrsiau
01/01/2006
Cliciwch i agor/cau
NI WEDI SYMUD
21/04/2006
Cliciwch i agor/cau
Cyflogwyr - Cwrs Hyfforddi 1-diwrnod RHAD AC AM DDIM
01/05/2006
Cliciwch i agor/cau
Cyflogwyr - Gwybodaeth a Slip Cofrestru
01/05/2006
Cliciwch i agor/cau
dylunio a lletya
WiSS Ltd 2004