Y cynulliad yn cefnogi cydbwysedd gwaith-bywyd

"Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cefnogi ymgyrch sy'n annog arferion gwaith mwy hyblyg i helpu gweithwyr i gynnal cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd y tu allan i'r gwaith. Mae Cydbwysedd Gwaith-Bywyd yn cydnabod bod patrymau gwaith yn newid. Mae mwy a mwy o gwsmeriaid yn disgwyl cael mynediad i wasanaethau y tu allan i oriau gwaith traddodiadol ac mae arferion gwaith yn newid i ateb y galw hwn. Mae mwy a mwy o fusnesau yn ystyried bod helpu gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywyd y tu allan i'r gwaith yn rhan o reolaeth adnoddau dynol dda. Cafodd Ymgyrch Cydbwysedd Gwaith-Bywyd y DU ei lansio gan y Prif Weinidog ym mis Mawrth ar y cyd � lansiad gan y Cynulliad Cenedlaethol. Lansiwyd dogfen drafod o'r enw "Newid Patrymau mewn Byd Cyfnewidiol" i hyrwyddo'r achos busnes dros gael cydbwysedd gwaith-bywyd a gwahodd sylwadau ar y ffordd orau i�w gweithredu. Mae'r Cynulliad bellach yn cydweithio'n agos � Chwarae Teg i hyrwyddo'r fenter ledled Cymru ac mae tair seminar rhanbarthol wedi cael eu trefnu fel rhan o'r ymgyrch. "

Tom Middlehurst MP

Wrth annerch y seminar gyntaf yn Llanelwy, dywedodd Ysgrifennydd y Cynulliad dros Addysg a Hyfforddiant, Tom Middlehurst: "Mae pob un ohonom fel cyflogwr neu weithiwr yn wynebu her ddyddiol o geisio cynnal cydbwysedd rhwng ein dyletswyddau yn y gwaith a'n bywydau prysur y tu allan i'r gwaith. A rhaid i bob un ohonom ymdopi �'r pwysau, yr heriau a'r rhwystrau sy'n gallu deillio o hyn. "Os yw Cymru i gael economi lwyddiannus, rhaid i fusnesau ym mhob sector wneud y defnydd gorau o'u hadnodd mwyaf gwerthfawr - pobl. Rhaid iddynt allu ymateb i anghenion a chyfrifoldebau eu cyflogeion � yn y gwaith a thu allan i�r gwaith. "Ceir achos busnes cryf o blaid cyflogwyr yn cyflwyno polis�au sy'n helpu eu gweithwyr i gynnal cydbwysedd rhwng gwaith ac agweddau eraill ar eu bywydau. "Hyblygrwydd yw'r ateb. Bydd pobl yn ffynnu a bydd o fudd i'r gweithle pan roddir cyfle i gyflogeion gynnal y cydbwysedd cywir rhwng gwaith a gweddill eu bywydau. Caiff mwy o gyfleoedd eu creu pan ddaw arferion gwaith yn fwy hyblyg i ddiwallu anghenion." Cyfle Cyfartal yw un o them�u allweddol 'Gwell Cymru' - cynllun strategol y Cynulliad Cenedlaethol a lansiwyd yn gynharach yr wythnos hon. Mae'r Cynulliad yn ymrwymedig i annog arferion adnoddau dynol a chyfleoedd gwaith mwy hyblyg ac mae�n monitro ei bolis�au ei hun ar y mater hwn yn ofalus. "Rydym hefyd yn rhoi help ymarferol i fusnesau ar gydbwysedd gwaith-bywyd drwy sefydlu Cronfa Her o �50,000 i ychwanegu at Brosiect Cyfartaledd Rhyw SME Awdurdod Datblygu Cymru," meddai Mr Middlehurst. "Bydd y gronfa yn darparu cymorth ariannol i fusnesau ymgymryd � phrosiectau yn ymwneud �'r agenda cydbwysedd gwaith-bywyd a chyhoeddir rhagor o fanylion cyn hir."

Llwytho'r Ddogfen Cydbwysedd Bywyd Gwaith

Llwytho'r crynodeb o'r ddogfen

Gwefan Cyflogwyr o blaid Cydbwysedd Bywyd Gwaith

Gwefan Cydbwysedd Bywyd Gwaith y DfEE

Gwefan Cyflogwyr o blaid Cydbwysedd Bywyd Gwaith

Erthygl Papur Newydd � Western Mail 31ain Mai 2000

Bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch

(cliciwch yma i'w gael)