Er gwaethaf cynnydd, mae menywod yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol mewn swyddi o bŵer ac arweinyddiaeth yn y llywodraeth, ym myd busnes ac mewn bywyd cyhoeddus. Mae’r darlun hwn hyd yn oed yn waeth ar gyfer menywod duon ac Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, menywod LHDTC+, menywod anabl, a menywod sy’n profi anghydraddoldebau ychwanegol. Byddwn ond yn gallu rhoi sylw go iawn i’r holl faterion rydym yn eu hwynebu fel cymdeithas pan fydd gennym gynrychiolwyr amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym ni’n byw ynddynt.
Nod LeadHerShip yw rhoi cip go iawn i fenywod ifanc ar y cyfleoedd arweinyddiaeth ym myd busnes a gwleidyddiaeth sydd ar gael iddynt. Ei nod yw ysbrydoli cenedl o arweinwyr benywaidd yn y dyfodol, boed hynny mewn byd gwleidyddol neu fusnes, sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli’n well mewn rolau o’r fath sy’n gwneud penderfyniadau, a rhoi llwyfan i fenywod fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Mae tair rhaglen LeadHerShip. Bydd Chwarae Teg yn rhoi cyfleoedd cysgodi i fenywod ifanc ym maes gwleidyddiaeth genedlaethol yn y Cynulliad, maes gwleidyddiaeth leol mewn amryw gynghorau lleol, a byd busnes, lle bydd cyfle i ddilyn arweinwyr busnes benywaidd mewn amrywiaeth o fusnesau yng Nghymru.