CHWILIO:
geiriau cymal
 

Aelodaeth - Ymunwch â ni!

Os oes gennych ddiddordeb mewn hybu datblygiad economaidd merched yng Nghymru, pam na ymunwch chi â Chwarae Teg.

Dyma rai o fanteision bod yn aelod o Chwarae Teg.

  • Cysylltiad ag asiantaeth datblygu economaidd merched yng Nghymru.
  • Llais yn y broses llunio polisi ym maes datblygu economaidd a chyfle cyfartal.
  • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau, seminarau a chynadleddau Chwarae Teg.
  • Gostyngiad ar brisiau Cynhadledd Flynyddol Genedlaethol Chwarae Teg.
  • Copi am ddim o holl gyhoeddiadau ymchwil, taflenni, cylchlythyr ‘Balans’ Chwarae Teg.
  • Llu o gyfleoedd rhwydweithio gyda phobl sy'n llunio barn yng Nghymru.
  • Cysylltiadau cyhoeddus a marchnata am ddim i hyrwyddo hanesion pwysig o lwyddiant neu astudiaethau achos o fewn eich sefydliad.
  • Aelodaeth yn rhad ac am ddim i’r Grwp Gweithredu Menter Cymru Gyfan.

Gallwn gynnig pecynnau aelodaeth wedi’u teilwrio’n arbennig i weddu unigolion a sefydliadau. Gellir trafod prisiau o fewn y canllawiau hyn.

Aelodau sylfaenol a chefnogwyr

Hoffai Chwarae Teg ddiolch i Awdurdod Datblygu Cymru (WDA), Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal, TUC Cymru, Uned Gydraddoldeb y GIG, Awdurdodau Lleol yng Nghymru, Job Centre Plus, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae y mudiadau yma yn aelodau sylfaenol o Chwarae Teg ac maent yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad economaidd merched yng Nghymru.

Amdanom ni | Prif themau | Newyddion a digwyddiadau | Ymchwil | Aelodaeth | Swyddfeydd | Cysylltwch â ni | Map y wefan | Swyddi

Hafan | English

 
 
Costau Aelodaeth
 
 
Aelodaeth borffor

Agored i unigolion, fusnesau bach (trosiant rhwng £0 a £300K), mudiadau gwirfoddol, elusennau, cyrff masnach a llyfrgelloedd.

£50.00 +TAW
 
Aelodaeth werdd

Agored i fusnesau canolig (trosiant rhwng £300K a £1,500K), prifysgolion, cyrff cyhoeddus.

£100.00 +TAW
 
Aelodaeth wen

Agored i gyrff corfforaethol
(trosiant dros £1,500).
Aelodau sylfaenol a chefnogwyr

£250 +TAW
dylunio a lletya
WiSS Ltd 2005