Sut i ddefnyddio Adrodd am y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau i ddatblygu eich busnes – 5 cwestiwn allweddol i wneud synnwyr o’r rhifau
Nid dim ond rhywbeth braf i’w gael yw cydbwysedd rhywiol - fe all sbarduno twf yn yr economi. Mae gwaith ymchwil diweddar gan Chwarae Teg yn dangos y byddai sicrhau cydraddoldeb rhywiol o ran cyfradd cyflogaeth, oriau a weithir a chynhyrchiant cyfartalog yn gallu arwain at £13.6 biliwn yn ychwanegol i economi Cymru erbyn 2028.
Derbynnir yn gynyddol bod busnesau cynhwysol yn fwy llwyddiannus. Mae ymchwil wedi dangos bod busnesau sy’n croesawu amrywiaeth yn gallu gweld manteision amrywiol yn cynnwys mwy o gynhyrchiant, cyfraddau cadw gwell, elw gwell a chyfraddau recriwtio gwell drwy gael eu hystyried yn gyflogwr o ddewis. Gwyddom hefyd fod gweithwyr yn edrych mwy ar ymrwymiad busnesau i gydraddoldeb ac amrywiaeth wrth wneud penderfyniadau am ble i weithio.
Adrodd yw cam cyntaf taith hirach i lawer o fusnesau. Gall achosion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau fod yn amrywiol a chymhleth felly mae’n bwysig gweld ble mae’r problemau posibl. Rydym yn gwybod bod modd gwneud newidiadau ymarferol i strwythurau a phrosesau busnes a all liniaru rhai o’r rhwystrau y mae menywod yn parhau i’w hwynebu, a helpu i sbarduno’r newid angenrheidiol mewn diwylliant ar gyfer sicrhau cydraddoldeb.