Mae adrodd ar Fylchau Cyflog rhwng y Rhywiau yn gyfle i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac adeiladu busnes sy'n addas ar gyfer y dyfodol

5th April 2019

Mae elusen blaenllaw cydraddoldeb rhywiol Cymru, Chwarae Teg, wedi dweud y dylai cyflogwyr ystyried adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel cyfle i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau er mwyn gwneud eu busnes yn fwy gwydn ac yn fwy addas ar gyfer y dyfodol. Dadleuodd yr elusen y bydd busnesau, trwy adrodd ar fylchau cyflog, yn gallu nodi lle mae angen iddynt weithredu er mwyn creu gweithlu mwy cyfartal a all arwain yn aml at fwy o gynhyrchiant a chadw staff a llai o absenoldeb salwch.

Dywedodd prif weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong:

“Dim ond un dangosydd yw’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac nid yw’n dweud y stori gyfan ond gall adrodd a dadansoddi’r bwlch fod yn arf defnyddiol i fusnesau nodi anghydraddoldebau yn eu gweithlu a chymryd camau i fynd i’r afael â nhw. Mae’n gyfle i edrych ar sefydliad a deall pam nad yw menywod yn symud ymlaen yn yr un modd â dynion ac i wneud newidiadau i brosesau recriwtio, diwylliant ac arferion gwaith fel y gall y busnes wneud y gorau o dalent a photensial ei gweithlu cyfan. Rydym yn gwybod bod busnesau sydd â gweithlu mwy cytbwys yn fwy gwydn ac yn fwy cynhyrchiol, sy’n golygu y byddant mewn gwell sefyllfa i lywio unrhyw anawsterau economaidd yn y dyfodol.

“Nid yw cydraddoldeb yn have ‘neis i gael’, mae’n ‘rhaid ei gael’ yn economaidd. Mae ymchwil diweddar gan Chwarae Teg yn dangos y gallai sicrhau cydraddoldeb rhywiol ychwanegu bron i £14 miliwn i economi Cymru.

“Mae Chwarae Teg wedi bod yn gweithio gyda busnesau llai dros nifer o flynyddoedd i’w helpu i ddatblygu a gweithredu strategaethau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol gyda’n rhaglen Cenedl Hyblyg 2 sy’n cael ei hariannu’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Rydym wedi canfod y gall cwmnïau sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni elwa’n fawr o ran cynyddu cynhyrchiant, gwell cyfraddau cadw staff a llai o absenoldeb salwch ar ôl gweithredu mesurau cymharol syml sy’n galluogi gweithwyr benywaidd i ffynnu. Rydym hefyd yn cefnogi cyflogwyr a busnesau mwy o bob cwr o Gymru sy’n tanysgrifio i’n gwasanaeth Cyflogwyr Chwarae Teg, ac yn eu helpu i ddeall achosion eu bylchau cyflog rhwng y rhywiau. Rydym yn gweithio gyda nhw i ddatblygu strategaethau unigol i leihau, ac yn y pen draw ddileu’r bwlch. Mae newidiadau i brosesau recriwtio, gan fabwysiadu arferion gweithio mwy modern a hyblyg a symud o ddiwylliant o bresenoldeb i un yn seiliedig ar ganlyniadau ac adeiladu sgiliau a hyder gweithwyr i gyd yn helpu i leihau’r bwlch. Mae pawb yn ennill gyda gweithlu mwy amrywiol a chyfartal.

“Mae amgylchedd y gweithle wedi’i wella, mae busnesau’n dod yn fwy cynhyrchiol ac mae’r economi ehangach yn elwa o’r cynnydd mewn treth hefyd. Amcangyfrifir y byddai cau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn arwain at gynnydd o £ 150bn i CMC y DU ac mae ein hymchwil yn dangos y gallai ychwanegu bron i £14bn i economi Cymru.

“Neges Chwarae Teg i fusnesau yn cyhoeddi ac yn adrodd eu ffigurau bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw i beidio â bod ofn, ond yn hytrach i gymryd y cyfle i gwneud newidiadau bach ond pwysig a fydd yn eich gwneud yn fwy cynhyrchiol, mwy llwyddiannus a gwneud eich gweithlu’n hapusach hefyd! ”

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth Cyflogwyr Chwarae Teg a sut y gall helpu’ch busnes i leihau ei fwlch cyflog rhwng y rhywiau, ewch i www.cteg.org.uk/fairplayemployer neu cysylltwch â [email protected].