Mae dau o gwmnïau gweithgynhyrchu a pheirianneg mwyaf blaenllaw Cymru wedi cofrestru â gwasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg, sef ymrwymiad addawol i ddyfodol y sector yng Nghymru.
Mae Chwarae Teg, sefydliad cydraddoldeb rhywiol blaenllaw Cymru, yn falch iawn bod Ford Manufacturing a Safran Seats GB wedi ymuno â’r rhaglen, sy’n cefnogi ac adolygu busnesau ar feysydd allweddol fel recriwtio, arferion gwaith modern, ymgysylltu â staff a chynhwysiant. Mae’r gwasanaeth yn darparu cynllun gweithredu pwrpasol, cydnabyddiaeth fel Cyflogwr Chwarae Teg a mynediad i adnoddau a digwyddiadau amrywiol i gleientiaid.
Mae Safran Seats GB yn cyflogi mwy na 1700 o bobl ar dri phrif safle, gyda’i Brif Swyddfa yng Nghwmbrân, Torfaen. Ar 1 Rhagfyr eleni, daeth Safran Seats GB (yr hen Zodiac Aerospace) yn is-gwmni swyddogol o Safran o Ffrainc, sef grŵp uwch dechnoleg rhyngwladol sy’n gweithredu yn y marchnadoedd gyrru a chyfarpar awyrennau, gofod ac amddiffyn.
Drwy’r gwasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg maent yn gobeithio parhau ar eu taith i fod yn lle gwych i weithio ac archwilio mentrau pellach i ddenu peirianwyr benywaidd i’r sefydliad.