Ers sefydlu Chwarae Teg, mae llawer o gynnydd wedi’i wneud tuag at sicrhau cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa o ran cynnydd tuag at gydraddoldeb yn newid yn ddramatig os ydym yn ystyried profiadau rhyngblethol menywod Duon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) sy’n byw yng Nghymru.
Mae menywod BAME yn cael eu hymyleiddio fwyfwy; maent yn bellach i ffwrdd o’r farchnad lafur, heb gynrychiolaeth ddigonol mewn swyddi â grym a dylanwad, ac yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi. Er bod menywod BAME yn wynebu rhwystrau cyffredin i’r gweithle ar sail rhyw, fel mynediad i ofal plant, maent yn wynebu anghydraddoldebau a rhagfarnau hiliol ychwanegol sy’n ei gwneud yn fwyfwy anodd iddynt ddod o hyd i waith a chamu ymlaen yn y gwaith.
Fodd bynnag, nid yw profiadau menywod BAME yr un fath yn union; maent yn amrywio’n sylweddol ar sail ethnigrwydd, cenedligrwydd, oedran, crefydd a statws ymfudo, yn ogystal â ffactorau eraill yn ymwneud â’u hunaniaeth. Felly, ni fydd un dull cyffredin o fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod BAME yn llwyddo. Mae’n hollbwysig bod lleisiau a phrofiadau menywod BAME gwahanol yn cael eu clywed, a’u bod yn llywio polisi ac ymarfer ar lefel Llywodraeth, ym myd busnes, mewn undebau llafur ac mewn cymdeithas sifil yn ehangach. Byddai sicrhau bod y sefydliadau hyn yn fwy cynrychioladol, gan gynrychioli menywod BAME yn deg, yn gam pwysig tuag at sicrhau bod lleisiau gwahanol yn cael eu clywed.
Hyd yn hyn, mae profiadau menywod BAME wedi’u hanwybyddu gan amlaf mewn gwaith ymchwil, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru, ac mae diffyg data wedi’i ddadgyfuno a data sy’n cael ei gasglu’n rheolaidd yn ei gwneud yn anodd mesur cynnydd. Nod y gwaith ymchwil hwn yw dechrau llenwi’r bwlch mewn gwybodaeth am brofiadau menywod BAME yn economi Cymru, ac ennyn trafodaeth ar sail ein hargymhellion ar gyfer Cymru.
Fel rhan o’r gwaith ymchwil hwn, rydym wedi cyflwyno argymhellion polisi ar gyfer y Llywodraeth, Busnesau, Undebau Llafur ac asiantaethau eraill er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau i gyflogaeth sy’n wynebu menywod BAME. Hefyd, rydym yn ceisio ysgogi sgwrs ehangach am rôl menywod BAME yn economi Cymru, er mwyn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod yn gallu gwireddu eu potensial. Er y bydd menywod BAME eu hunain yn gyfarwydd iawn â llawer o’n canfyddiadau a’n hargymhellion, dylent fod yn ddadlennol i eraill. Rydym yn ymrwymo i ddefnyddio ein sefyllfa a’n dylanwad er budd menywod o bob math