Manteisio ar ddysgu ar-lein yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud a thu hwnt
Wel, pwy fyddai wedi rhagweld cyflwr presennol y byd a’r holl ffyrdd newidiol o weithio a dysgu!
Mae sefydliadau wedi gorfod addasu er mynd diwallu anghenion y gweithlu a’u cwsmeriaid er mwyn goroesi a ffynnu yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
Mae mwy na 12 wythnos wedi mynd heibio ac mae llawer o bobl yn dod allan o’r cyfnod o banig, sydd wedi gweld bywyd fel rydym yn ei adnabod yn cael ei ohirio. Mae’n bryd i ni nawr edrych ar fywyd yn ystod y cyfyngiadau symud a thu hwnt, a sut y gallwn barhau i dyfu a datblygu ein hunain er mwyn sicrhau ein bod mor barod ag y gallwn fod ar gyfer gwaith sy’n newid yn barhaus a gwirioneddau bywyd.
Yma yn Chwarae Teg mae ein tîm hyfforddi a chyflenwi aml-alluog wedi croesawu’r her i wella ein cynnig dysgu ar-lein, dysgu sgiliau newydd, a defnyddio ein creadigrwydd i gynhyrchu rhaglenni sy’n ysgogi, ysbrydoli ac ennyn diddordeb. Mae ein cynnwys ar-lein a’n darpariaeth yn sicrhau bod ein cyfranogwyr yn cael eu cynnwys, ac rydym yn eu cefnogi trwy gydol eu cyfnod cymhwyso a chyda’r nodau datblygu gyrfa a ddymunir ganddynt.
Rydym hyd yn oed wedi symud ein seremonïau graddio ar-lein. Lle’r ydym fel rheol yn cynnal digwyddiadau ar ddiwedd pob rhaglen, rydym wedi cyflwyno 22 o gynulliadau ar-lein ysbrydoledig a welodd bob cyfranogwr yn cael ei gydnabod am ei lwyddiant, gyda siaradwyr gwadd, uchafbwyntiau’r rhaglen ac ambell wydr o swigod. Mae dros 300 o fenywod wedi derbyn tystysgrifau rhithwir ac wedi dathlu cyflawni eu cymhwyster.
“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r seremoni graddio rithwir – roedd cymaint o gyffro i’w deimlo, ac rwy’n teimlo’n ddiolchgar fy mod wedi bod yn rhan o’r grŵp anhygoel hwn o fenywod.” Cyfranogwr ar y Rhaglen
Ai dysgu ar-lein fydd y normal newydd?
Wrth i ni lywio ein ffordd trwy gyfnod y cyfyngiadau symud ac edrych i’r dyfodol agos, lle mae’n ymddangos y bydd cadw pellter cymdeithasol yn parhau am ychydig, mae’n rhaid i ni addasu a defnyddio’r cyfle hwn i ehangu ar ein cynnig. Mae pob canolfan hyfforddi yn adolygu’r hyn sy’n cael ei gynnig ganddi yn yr ystafell ddosbarth ac yn symud ar-lein. Rwy’n sicr y byddwn yn dod nôl i’r ystafell hyfforddi eto, ond mae’r pandemig hwn wedi ein hymestyn a’n herio i greu hyfforddiant ar-lein sy’n gallu cael ei gynnal bellach ochr yn ochr â’r ystafell ddosbarth draddodiadol.
Pan mae cyflogwyr yn caniatáu i’w gweithlu fynychu hyfforddiant ar-lein, mae hyn yn cael gwared ar rwystrau fel lleoliad, costau teithio, pryder o ran mynychu grwpiau newydd, a lleoliad dysgu diogel yn y gwaith neu’r cartref. Mae hefyd yn galluogi aelodau’r tîm i gymryd mwy o reolaeth dros eu dysgu ac i gael mynediad at ddeunyddiau ychwanegol yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain. Mae cyrsiau ar-lein yn edrych yn wych ar eich CV, gan ddangos eich bod wedi ymrwymo i ddysgu i ddarpar gyflogwyr a’ch bod yn awyddus i wella’ch gwybodaeth a’ch sgiliau. Yn ystod y cyfnod presennol, mae hefyd yn dangos eich gallu i addasu i newid a dysgu wrth i ni lywio’n ffordd trwy’r sefyllfa heriol ac ansicr hon.
Yma yn Chwarae Teg, mae ein deunyddiau’n cael eu cwblhau fel y gallwn gyflawni ein rhaglen datblygu gyrfa unigryw a fydd i gyd yn cael ei chynnig ar-lein. Mae’r hyn rydym wedi’i gynllunio yn sicrhau na chollir unrhyw elfen o’r hud sy’n cyd-fynd â dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ac mae ein hymgysylltiad ar-lein o’r radd flaenaf.
Byddwn yn dal i fod wyneb yn wyneb, ond byddwn yn gwneud hyn o gysur ein cartref a’n cyfrifiadur ein hunain!
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ennill eich cymhwyster Arweinydd Tîm a defnyddio technolegau newydd. Nid oes angen i chi fod yn ddewin technegol chwaith – byddwn ni’n gofalu am hyn, o e-gyfarfod ar ddechrau eich taith i gwrdd â’r cyd-ddysgwyr o fewn eich grŵp, i chwe diwrnod dysgu rhithwir sy’n llawn o weithgareddau dymunol. Beth am ddechrau ar eich taith datblygu gyrfa heddiw.
Fel rhagflas ar eich cyfer…
- Rydym yn cynnig e-gyfarfod i ddechrau eich taith ac i gwrdd â’r cyd-ddysgwyr yn eich grŵp
- Sesiwn technoleg ar gyfer unrhyw un sy’n ansicr ynglŷn â defnyddio’n platfform e-ddysgu
- Chwe diwrnod dysgu rhithwir sy’n llawn o weithgareddau deniadol (gyda seibiannau penodol)
- Deunyddiau e-ddysgu dilynol ar gyfer pob sesiwn ddyddiol fel y gallwch ddysgu pan fyddwch yn dymuno gwneud
- Nifer o adnoddau datblygu gyrfa ar-lein, o sgiliau cyfweld, ysgrifennu CV, brandio personol, rhwydweithio a chymaint mwy, ac mae modd eu lawrlwytho nhw i gyd!
- Cymorth tiwtorial rhithwir drwy gydol y cwrs gan eich Partner Datblygu Gyrfa a’ch Partner Datblygu Dysgu
- Cyfarfod adolygu rhithwir
- Ac yn olaf ond heb fod yn lleiaf, seremoni graddio ar-lein