Unwaith eto mae merch yn ei harddegau o Fodelwyddan sy’n llwyddiant mawr ym myd karate, wedi cael cydnabyddiaeth am ei chyflawniadau a’r manteision y mae’n eu cynnig i ofalwyr ifanc a’r gymuned.
Mae Bethan Owen, 17, bellach wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Seren Ddisglair yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg, ble fydd yr hyn mae wedi’i gyflawni hyd yn hyn, er mor ifanc ynghyd â’r addewid y mae’n ei ddangos ar gyfer y dyfodol yn cael eu dathlu.
Fel gofalwr ifanc, fe ddaeth Bethan i garu karate’n angerddol pan oedd yn 7 oed gan ei fod yn rhoi diddordeb newydd iddi a mynd â’i sylw oddi ar ei chyfrifoldebau yn y cartref. Fodd bynnag, aeth Bethan â phethau gam ymhellach a phenderfynu ei bod am redeg ei chlwb ei hun ble na fyddai arian yn rhwystr i gymryd rhan. Wrth redeg y clwb – B.K.A. - o’r Rhyl, mae hi wedi gwneud yn siŵr bod modd cynnwys unrhyw un, yn enwedig gofalwyr ifanc eraill yn yr ardal.
Nid yw cyfyngiadau symud y cyfnod clo wedi rhoi stop arni hi ‘chwaith wrth i Bethan roi dosbarthiadau ar-lein yn rheolaidd o’i sied gardd sy’n llawn offer! A hynny ar ben ei gwaith yn astudio yng Ngholeg y Rhyl a’i rôl fel cadét Heddlu, does fawr o syndod bod Bethan wedi cael lle fel ymgeisydd yn rownd derfynol Womenspire i’w ychwanegu at ei rhestr hir o wobrau blaenorol!