Mae merched o oed ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer y gweminar Nid Jyst i Fechgyn diweddaraf.
Yn cael ei redeg gan Chwarae Teg mewn partneriaeth â Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI), bydd y gweminar yn cael ei chynnal rhwng 1pm-2pm ar ddydd Mercher 1 Gorffennaf.
Gyda’i gilydd byddant yn dangos nad Nid Jyst i Fechgyn mae gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Bydd pedair menyw ysbrydoledig sy’n gweithio yn ABPI yn cymryd rhan yn y gweminar ac yn rhoi cyfle i ferched:
- Darganfod sut beth yw ‘diwrnod ym mywyd’ rhywun sy’n gweithio mewn diwydiant STEM
- Clywed sut maen ABPI wedi bod yn gweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19
- Cael eich ysbrydoli gan eu teithiau gyrfa
- Cael y cyfle i holi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’u gyrfaoedd i’r modelau rôl