Mae cyfieithydd ac ymgyrchydd gwobredig sy’n benderfynol o newid y canfyddiad o awtistiaeth ymysg y gymuned Tsieineaidd wedi cael cydnabyddiaeth am ei chyflawniadau unwaith eto.
Mae Hazel Lim, mam i dri sy’n byw yn Abertawe, bellach wedi cyrraedd rownd derfynol y categori Pencampwraig Gymunedol yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg - lle caiff ei chyflawniadau eu dathlu.
Wedi ei geni a’i magu ym Malaysia ac o gefndir Malaysia-Tsieineaidd, roedd Hazel wedi symud i Lundain ac wedi bod yn gweithio fel cyfieithydd am 15 mlynedd pan gafodd ei mab hynaf ddiagnosis o awtistiaeth yn 2015. Yn awyddus i’w gefnogi gymaint â phosibl, symudodd gyda’i gŵr a’u tri plenty i Abertawe er mwyn iddi allu astudio ar gyfer MSc mewn Awtistiaeth a chyflyrau cysylltiedig ym Mhrifysgol Abertawe.
Ar ôl penderfynu ymgartrefu’n barhaol yn y ddinas, sefydlodd Hazel y Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd, pan sylweddolodd nad oedd cymorth ar gael - hyd yn oed yn genedlaethol - i deuluoedd Tsieineaidd sy’n delio â’r cyflwr.
Ers hynny mae hi wedi gweithio’n ddiflino i ymgysylltu â theuluoedd Tsieineaidd sydd â phlant awtistig, a oedd bron â bod yn cuddio’u hunain oherwydd y rhwystrau ieithyddol a’r stigma diwylliannol sy’n gysylltiedig ag awtistiaeth.
Mae ei heffaith wedi bod yn sylweddol i’w chymuned leol ac i rai sy’n ceisio deall awtistiaeth yng nghyd-destun diwylliannol Tsieineaidd ledled y byd. Yn 2019, cynhyrchodd Hazel y llyfryn awtistiaeth dwyieithog cyntaf Saesneg a Tsieineaidd yn y DU. Roedd yn rhoi dealltwriaeth ragarweiniol i weithwyr proffesiynol o’r rhwystrau diwylliannol niferus, er mwyn eu cynorthwyo i gefnogi eu cleientiaid Tsieineaidd yn fwy effeithiol. Mae’r llyfryn wedi cael effaith fawr - wedi’i rannu’n rhyngwladol, ac mae bellach yn adnodd hanfodol ar gyfer cymunedau Tsieineaidd Awtistig.
Mae gwaith Hazel wedi ei harwain i rownd derfynol Gwobrau Arwyr Awtistiaeth y DU ac enillodd dlws ‘rhywun a newidiodd fy mywyd’ yng Ngwobrau Gweithwyr Awtistiaeth Broffesiynol y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol yn 2020.