Cafodd disgyblion benywaidd ym mlynyddoedd 8 a 9, o ysgolion uwchradd ledled De Cymru, y cyfle i ddarganfod yr y gyrfaoedd eang sydd ar gael yn y diwydiant awyrennau mewn digwyddiad Nid Jyst I Fechgyn.
Wedi’I rhedeg gan Chwarae Teg, mae Nid Jyst i Fechgyn wedi ‘ i gynllunio i helpu merched i ddod i wybod mwy am wahanol yrfaoedd na fyddent yn cael eu hystyried yn draddodiadol fel opsiynau ar gyfer menywod, cyn iddynt ddewis eu pynciau TGAU.
Yn y digwyddiad diweddaraf hwn, a agorwyd gan Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r prif chwip, gwelwyd Chwarae Teg yn partneru gyda British Airways Maintenance Cardiff (BAMC) a Gyrfa Cymru ar gyfer diwrnod llawn gweithgareddau. Gyda’i gilydd, roeddent yn dangos Nid Jyst I Fechgyn y mae gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).
Aeth y disgyblion ar daith o amgylch yr awyrendy yn BAMC, a oedd yn arddangos yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael, ac roedd cyfle iddynt roi cynnig ar weithgareddau ar draws sectorau gan gynnwys peirianneg a digidol.
Roedd amrywiaeth o ddiwydiannau STEM a chyflogwyr yn arddangos yn y digwyddiad, gan alluogi’r disgyblion i gwrdd â modelau rôl benywaidd a chael gwybod am swyddi gwag, prentisiaethau a llwybrau cymwysterau i’r gwahanol yrfaoedd.
Mynychodd disgyblion o’r ysgolion canlynnol - Tonyrefail Community School, Ysgol Bro Morgannwg, Cyfartha High School, Llantwit Major, Crickhowell High School and St Cyres School.
Dywedodd tad un disgybl o ysgol Crickhowell: “Mae’n bwysig i’r merched gysylltu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol a gweld sut gallen nhw gymhwyso hyn i swyddi go iawn.”
Dywedodd y disgybl, Mia, o ysgol St Cyres: “Mae wedi bod yn wych i ddysgu am gyfleoedd gwahanol ac ymchwilio iddyn nhw, a teimlo bod gen i’r gallu i wneud gwahanol yrfaoedd.”