Mae sefydliadau menywod ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig wedi dod ynghyd i gydweithio ar brosiect a fydd yn mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, wedi’i ariannu gan Rosa a rhaglen y Gronfa Cyfiawnder a Chydraddoldeb, Now’s the Time.
Nod y prosiect yw creu symudiad tuag at ddull ataliol, gan arfogi cyflogwyr â’r modd i fod yn fwy rhagweithiol yn eu hymdrechion i ddileu aflonyddu rhywiol. Mae’r dull presennol yn dibynnu ar fenywod i roi gwybod am eu profiadau, sy’n gallu bod yn hynod o sensitif a thrawmatig, gan eu rhoi mewn sefyllfa fregus yn bersonol ac yn eu gweithleoedd. Mae’r pedwar sefydliad yn cydweithio i herio’r anghydbwysedd pŵer rhwng menywod a dynion sy’n cynnal anghydraddoldeb ac yn creu diwylliant lle mae aflonyddu rhywiol yn cael ei normaleiddio ac yn gallu mynd heb ei herio. Bydd y prosiect yn ceisio gweithio ar sail drawstoriadol sy’n dadansoddi ac yn herio’r ffyrdd y caiff menywod mewn sefyllfaoedd gwahanol eu targedu ar gyfer aflonyddu rhywiol, er enghraifft ar sail eu hethnigrwydd.
Bydd y prosiect, a fydd yn rhedeg dros ddwy flynedd, yn darparu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio wrth fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, yn datblygu adnoddau newydd i gyflogwyr ac yn ymgyrchu dros newid. Bydd y prosiect yn elwa o gyfraniad arbenigol unigryw y pedwar sefydliad.
Y pedwar sefydliad sy’n gweithio ar y prosiect yw Chwarae Teg yng Nghymru, Cymdeithas Fawcett yn Lloegr, Close the Gap yn yr Alban a’r Asiantaeth Adnoddau a Datblygu i Fenywod yng Ngogledd Iwerddon.
Gan weithio ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, bydd y partneriaid yn adolygu’r arferion gorau o ran ymateb i aflonyddu rhywiol yn y gweithle, ac yn ystyried syniadau ynghylch ffyrdd annibynnol i roi gwybod am aflonyddu. Bydd y prosiect hefyd yn ymchwilio i sut mae cyflogwyr, rheolwyr a gweithwyr yn gweld y profiadau cyfredol ac yn creu adnoddau sy’n canolbwyntio ar gyflogwyr i hybu diwylliant rhagweithiol ac ymatebol, gan sicrhau bod gweithleoedd yn amgylcheddau gwell i bawb.