Amlygodd ymchwil diweddar gan Gymdeithas Fawcett fod 75% o ymatebwyr wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Fe nododd yr ymchwil nifer o ystadegau dychrynllyd a lleisiodd realiti annifyr i fenywod.
Roedd yn rhaid i mi ei wynebu bob dydd ac roedd yn rhaid i mi weld ei wyneb, ac e’n gwenu arna i. Roeddwn i’n cael fy ail-drawmateiddio bob dydd.
Mae Aflonyddu Rhywiol yn digwydd mewn gweithleoedd ledled y DU heddiw. Mae’n difetha bywydau, gan wneud gweithleoedd yn wenwynig ac mae angen i ni roi stop arno:
- Hunan-feio ac embaras
- Ofn ôl-effeithiau
- Ofn peidio â chael eich credu/cymryd o ddifrif
- Swydd yr aflonyddwr a’r fenyw a aflonyddwyd arni
- Llwybrau adrodd annigonol
- Diffyg ymddiriedaeth yn y broses
Felly, beth ellir ei wneud?
Bydd Chwarae Teg yn gweithio gyda chyflogwyr fel chi i greu polisïau gweithle, mecanweithiau adrodd a phrosesau cymorth y gellir eu cyflwyno ar draws sefydliadau i wneud gweithleoedd yn fwy diogel i bawb.
Gyda’n gilydd gallwn lunio’r deunyddiau a’r prosesau busnes a all dynnu sylw at aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Wrth gwrs, gellir cyflwyno popeth rydych chi’n ei ddysgu yn eich sefydliadau hefyd.
Rydym yn recriwtio 20 o gyflogwyr o bob rhan o Gymru i gymryd rhan yn y prosiect arloesol hwn. Mae angen i un unigolyn o bob sefydliad ymrwymo i dair sesiwn ½ diwrnod yn ystod mis Medi a mis Hydref eleni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y grŵp arloesol, cysylltwch â
Emma Tamplin, Rheolwr Cydweithredu
[email protected]