Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd cenhadaeth a gwerthoedd Chwarae Teg.
Yn Chwarae Teg, rydym yn cydnabod bod gennym gyfle unigryw i wneud y newid cadarnhaol sydd ei angen o fewn cymdeithas i amddiffyn a galluogi menywod a chymunedau yn well i gyflawni eu potensial. Fel sefydliad sy’n bodoli i ddileu anghydraddoldeb o ran rhywedd yng Nghymru, mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd Chwarae Teg. Ein nod yn y pen draw yw Cymru lle gall pob merch, waeth beth fo’i chefndir, gyflawni a ffynnu yn yr economi a thu hwnt.
Bob wythnos, mae ein timau’n gweithio’n frwd ledled Cymru i gyflwyno atebion arloesol sy’n cyfrannu at newid y ffyrdd y mae ein cymdeithas yn gweithio er budd gwell i fenywod. O gefnogi a datblygu menywod yn uniongyrchol ar bob lefel yn yr economi, i weithio gyda busnesau i helpu i roi arferion gwaith cynhwysol ar waith neu ddylanwadu ar newid polisi ar lefel uchel i wella cydraddoldeb rhywedd, rydym yn falch o’r effaith yr ydym yn ei chyflawni ar gyfer menywod yng Nghymru.
Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod ein bod wedi methu ar adegau yn y gorffennol ac, er y gallai ein bwriadau i wella amrywiaeth a chynhwysiant fod wedi bod yn gadarnhaol, nid yw ein dulliau gweithredu wedi cyrraedd y nod. Er mwyn cyrraedd ein llawn botensial fel sefydliad, mae angen i ni feithrin yr un egwyddorion o fewn ein harferion gwaith a’n diwylliant ein hunain ag yr ydym yn eu defnyddio i lunio rhai’r busnesau, cymunedau ac unigolion yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae gennym gyfrifoldeb i groesawu ac ymgorffori arferion gorau ym mhopeth a wnawn i ddarparu gwasanaeth sy’n gwerthfawrogi pwysigrwydd croestoriadedd ochr yn ochr â phrofiad bywyd menywod o ystod o wahanol gefndiroedd.
Mae’n gyfnod cyffrous i Chwarae Teg wrth inni gychwyn ar gyfnod newydd o newid, datblygiad a thwf i’r sefydliad. Dros y blynyddoedd i ddod, efallai y bydd golwg wahanol arnom, a byddwn yn cyflawni gwaith ychydig yn wahanol i’r hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd, felly dyma’r cyfle perffaith i adnewyddu, diweddaru a newid ein dull presennol o gyflawni ein nod o weithio tuag at Gymru lle gall pob merch gyflawni ei photensial.