Merched yn Arwain Bancio

17th November 2021

LeadHerShip Live: ‘Merched yn Arwain Bancio’

Er gwaethaf y cynnydd, mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli mewn swyddi o bŵer ac arweinyddiaeth yn y Llywodraeth, Busnes a bywyd cyhoeddus. Nod ein rhaglen LeadHerShip yw sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli’n well mewn rolau gwneud penderfyniadau o’r fath a rhoi platfform i fenywod fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a’u bod yn cael eu hysbrydoli i weld eu hunain fel arweinwyr y dyfodol.

Ymunwch â ni ar gyfer LeadHerShip Live lle byddwch yn clywed gan 2 fenyw ysbrydoledig sy’n arwain y ffordd yn y sector bancio yng Nghymru a darganfod sut y gwnaethon nhw gyrraedd eu dewis yrfaoedd.

Ymhlith y siaradwyr mae:
Khushboo Patel, Local Director, Metro Bank

Mae gan Khushboo dros 14 mlynedd o brofiad ym maes bancio ar draws y sectorau masnachol a chorfforaethol ac yn fwy diweddar mae hyn wedi ehangu i gwmpasu manwerthu hefyd. Ar ôl ymgymryd â gwahanol rolau rheoli ac arwain, mae Khushboo bellach yn arwain y chwyldro ar gyfer Metro Bank yng Nghymru. Mae Khushboo’n hyrwyddo Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan arwain ar y maes hwn o fewn y Banc, yn ogystal ag arwain agweddau ar y pwnc. Yn gefnogwr brwd dros addysg a sgiliau cyflogadwyedd ymhlith pobl ifanc mae Khushboo’n mentora ac yn eiriol dros fenter Caerdydd 2030 a Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac mae hefyd yn Llywodraethwr yng Ngholeg Caerdydd a Fro.

Pan nad yw hi gyda’i chi German Shepherd chwareus, yn ei hamser hamdden, mae Khushboo’n crefftio, yn coginio ac yn cynllunio’i theithiau nesaf gyda’i phartner a’i theulu.

Amanda Dorel, SME & Mid Corporate Regional Director, Lloyds Bank

Ar hyn o bryd mae Amanda, sydd wedi mwynhau dros 30 mlynedd gyda Lloyds Banking Group, yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol Corfforaethol Busnesau Bach a Chanolig yn Rhanbarth Canolbarth Lloegr a De Cymru, gan arwain tîm o 109 o Reolwyr a Chyfarwyddwyr Perthynas sydd â chyfrifoldeb dros weithio gyda chleientiaid i’w helpu i gyflawni eu nodau.

Cyn hynny bu Amanda’n cefnogi’r Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol yn Rhwydwaith y Gorllewin i gyflawni cynlluniau ‘Helpu Prydain i Ffynnu’. Mae Amanda hefyd wedi mwynhau gweithio o fewn fframwaith nifer o rolau gweithio ystwyth, gan gydbwyso ei gyrfa ac anghenion ei theulu yn llwyddiannus.

Mae hi hefyd yn Gyd-Bennaeth Eiddo Tirol y DU ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig lle mae’n gyfrifol am arwain Timau Eiddo Tirol Rhanbarthol achrededig er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi’r sector allweddol hwn o fewn economi’r DU

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Emma Tamplin, Rheolwr Cydweithio: [email protected]