Ydych chi’n ddadansoddwr a gweithredwr systemau profiadol sydd ag angerdd dros gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac awydd i ddefnyddio’ch sgiliau i gefnogi newid diwylliant a gwella cynwysoldeb yn y gweithle?

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Dadansoddwr Gweithrediadau i ymuno â’n tîm Cyflogwyr Chwarae Teg.

Nod Cyflogwr Chwarae Teg yw gweithio gyda Busnesau ac Arweinwyr ledled y DU gan arwain newid diwylliant er mwyn dileu meddwl ac ymddygiad ystrydebol ac i feithrin llesiant. Rydym yn nodi’r meysydd problemus o fewn sefydliad sy’n llesteirio’r broses o recriwtio, cadw a datblygu menywod gyda’r nod o ddileu anghydraddoldebau rhyngblethol systemig. Yn ogystal, rydym yn cefnogi datblygiad arweinyddiaeth ar draws y sefydliadau hynny i sbarduno arweinwyr cynhwysol, sy’n cael eu gyrru gan gydraddoldeb.

Caiff holl elw Cyflogwr Chwarae Teg ei ailfuddsoddi yn Chwarae Teg i gefnogi’r elusen i gyflawni ei chenhadaeth; i greu Cymru decach lle gall pob menyw gyflawni a ffynnu.

Mae rôl y Dadansoddwr Gweithrediadau yn hanfodol i lwyddiant ein cynlluniau twf busnes. Darparu adroddiadau a gwybodaeth i gefnogi’r Cyfarwyddwr Masnachol a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i wneud penderfyniadau strategol sy’n seiliedig ar ffeithiau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm talentog o unigolion, lle byddant yn gyfrifol am reoli ein systemau data o ddydd i ddydd a dadansoddi data er mwyn nodi: elw ar fuddsoddiad o weithgareddau gwerthu, tueddiadau allweddol y farchnad, cylchoedd gwerthu a chynllunio capasiti. Yn ogystal, cefnogi’r gwaith o gydlynu ein meddalwedd awtomeiddio marchnata, rheoli perthnasoedd â chleientiaid a’r rhaglen rheoli adborth menter.

Bydd ganddynt brofiad amlwg o ddefnyddio dadansoddeg busnes i ddarparu adroddiadau ac adborth a arweinir gan ddata. Profiad gweithrediadau systemau gan ddefnyddio amryfal lwyfannau i gynnal, cydlynu a chefnogi gweithgareddau busnes. Bod yn unigolyn sy’n meddwl mewn ffordd arloesol a gwahanol ac sy’n herio’r tîm i wneud gwelliannau parhaus drwy wneud penderfyniadau a arweinir gan ddata.

Y Rôl

Cyflog: £29,130

Oriau gwaith: 35 Awr yr wythnos (rhaid bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion)

Hyblygrwydd: Cynigir holl rolau Chwarae Teg ar sail hyblyg yn sgil ein model gweithio ystwyth. Gellid ystyried oriau cywasgedig a secondiad allanol.

Lleoliad: Gweithio o gartref

Contract: Parhaol

Dyddiad Cau: 09:00 Dydd Mawrth 4 Ionawr 2022

Eich diogelwch

Mae’r holl rolau o fewn Chwarae Teg wedi’u lleoli gartref ac yn cael eu hwyluso drwy ddarparu gliniadur a ffôn symudol y cwmni i’w defnyddio at ddibenion gwaith. Ar hyn o bryd mae ein gwaith yn cael ei gwneud gyda mesurau diogelwch Covid-19 ar waith, felly, rydym yn disgwyl i’r rôl hon gael ei chyflawni’n rhithwir yn bennaf, ond pan fydd ein harferion yn caniatáu, efallai y bydd angen rhywfaint o deithio, o fewn y DU. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn asesu’r effaith ar ein gwasanaethau a ddarperir yn unol â hynny.

Ein hymrwymiad

Rydym yn ymrwymedig i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, yn ogystal â phobl anabl, sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd ac sy’n dewis cyflwyno cais drwy ein cynllun gwarantu cyfweliad.

Buddion i weithwyr

Rydym yn annog ein gweithwyr i gymryd mantais o’r ystod wych o fuddion a gynigir gennym:

  • Gweithio ystwyth ar gyfer cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar weithio wythnos waith o bum diwrnod)
  • Darpariaeth dysgu a datblygu
  • Pensiwn cyflogwr o 7%
  • Cynllun Arian Westfield Health
  • Tâl salwch y cwmni hael
  • Absenoldeb uwch am resymau teuluol

I wneud cais:

Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: OA091221.

Oherwydd ein proses rhestr fer Dienw ni allwn dderbyn CVs naill ai yn lle, neu yn ychwanegol at, ffurflen gais am swydd wedi’i chwblhau. Bydd ffurflenni cais yn cael eu sgorio gan ein panel recriwtio ac yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch yn adran ‘Y Rôl a Chi’ ar y ffurflen Gais.

Er mwyn i’ch cais fod yn llwyddiannus, cysylltwch eich ymateb â’r meini prawf hanfodol a dymunol a geir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn ar gyfer y rôl, gan ddarparu enghreifftiau lle bo hynny’n bosibl.

Rydym yn cynnig adborth i bob ymgeisydd, wrth wneud cais am swydd ac ar ôl cyfweliad.