Interniaeth Cynorthwyydd Cydweithredu (Kickstart)

Mae hon yn rôl ‘kickstart’ drwy gynllun Kickstart y Llywodraeth.

Dim ond ymgeiswyr a gyfeirir atom drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gymwys i wneud cais am y rôl Kickstart hon. Cysylltwch â’ch Cynghorydd Gwaith yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ynglŷn â chymhwysedd a gwybodaeth am sut i wneud cais.

I fod yn gymwys i wneud cais am y cynllun Kickstart byddwch yn:

  • 16-24 oed
  • Hawlio Credyd Cynhwysol
  • Cael trafferth sicrhau gwaith neu brentisiaeth
  • Elwa o swydd o ansawdd â thâl am chwe mis ynghyd â chefnogaeth a chymorth i’ch helpu i adeiladu eich gyrfa hirdymor.
Hyfforddiant a Datblygiad

Bydd Interniaid cynllun Kickstart yn cael hyfforddiant ac adnoddau fel rhan o’u lleoliad. Ymhlith y pynciau mae:

  • Ysgrifennu CV
  • Datblygu Gyrfa
  • Sgiliau a Thechnegau Cyfweliad
  • Gwaith tîm
  • Cyfathrebu Effeithiol.

Bydd gan Interniaid Kickstart fynediad uniongyrchol i Bartner Datblygu Gyrfa i gael cefnogaeth i geisio am cyflogaeth yn y dyfodol.

Mae’r rôl

Bydd yr Intern Cydweithredu yn gweithio i’r Rheolwr Cydweithredu ac yn atebol am gefnogi’r gwaith o ddarparu rhwydweithiau, digwyddiadau a phrosiectau a ariennir gan grantiau.

Os ydych yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithiol, deinamig a chyflym, ac yn mwynhau gweithio gyda chydweithwyr brwdfrydig a chefnogol i helpu pobl i gyflawni eu potensial llawn, dyma’r rôl i chi.

Cyflog: £17,290 (Pro rata £12,350)

Oriau gwaith: 25 Awr yr wythnos (rhaid bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion)

Hyblygrwydd: Cynigir pob rôl Chwarae Teg ar sail hyblyg oherwydd ein model gweithio ystwyth.

Lleoliad: Gweithio o gartref

Contract: Contract Tymor Penodol 6 mis

Dyddiad Cau: Ganol dydd 13 Gorffennaf 2021

Eich Diogelwch

Mae’r holl rolau o fewn Chwarae Teg ar sail gweithio gartref ac yn cael eu cefnogi drwy ddarpariaeth gliniadur a ffôn symudol y cwmni i’w defnyddio at ddibenion gwaith. Mae ein gwaith yn cael ei gyflawni gyda mesurau diogelwch covid-19 ar waith ar hyn o bryd, felly, rydym yn disgwyl i’r rôl hon gael ei chyflawni’n bennaf drwy fideo-gynadledda a dulliau cyfathrebu rhithiol eraill ar hyn o bryd. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn asesu’r effaith ar ein darpariaeth gwasanaeth yn unol â hynny.

Ein Hymrwymiad

Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, yn ogystal â phobl anabl, sy’n cwrdd â’r meini prawf swydd hanfodol ac yn dewis ymgeisio trwy ein cynllun cyfweldiad gwarantedig.

Buddion Gweithwyr

Rydym yn annog ein gweithwyr i fanteisio ar yr ystod eang o fuddion a gynigir gennym:

  • Gweithio Agile ar gyfer cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar wythnos waith 5 diwrnod)
  • Darpariaeth Dysgu a Datblygu
  • Pensiwn cyflogwr 7%
  • Buddion Westfield Health
  • Tâl salwch uwch gan gwmni
  • Absenoldeb teuluol gwell

Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: CLAKS240621)

Oherwydd ein proses rhestr fer Dienw ni allwn dderbyn CVs naill ai yn lle, neu yn ychwanegol at, ffurflen gais am swydd wedi’i chwblhau. Bydd ffurflenni cais yn cael eu sgorio gan ein panel recriwtio ac yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch yn adran ‘Y Rôl a Chi’ ar y ffurflen Gais. Er mwyn i’ch cais fod yn llwyddiannus, cysylltwch eich ymateb â’r meini prawf hanfodol a dymunol a geir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn ar gyfer y rôl, gan ddarparu enghreifftiau lle bo hynny’n bosibl.

Rydym yn cynnig adborth i bob ymgeisydd, wrth wneud cais am swydd ac ar ôl cyfweliad.