Ydych chi’n weithiwr proffesiynol rhagweithiol sydd am helpu menywod i gyflawni a ffynnu?

Y cyfle

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a threfnus i ymuno â’n Tîm Hyfforddiant a Chymwysterau fel Partner Cydgysylltu Dysgu Digidol.

Gan ymuno â thîm sydd wedi sefydlu ond sy’n esblygu, byddwch yn gweithio’n agos gyda’n Partner Hyfforddiant a Chymwysterau E-Ddysgu i gefnogi a datrys materion ac ymholiadau defnyddwyr yn ymwneud â’n llwyfannau a’n technolegau dysgu. Byddwch hefyd yn cefnogi’r tîm Hyfforddiant a Chymwysterau ehangach gyda pharatoi a brandio adnoddau hyfforddi.

Lleoliad: Gweithio gartref
Cyflog: £22,780 y flwyddyn
Oriau gwaith: Llawn amser

Dyddiad Cau: 12pm Dydd Mawrth 3 Tachwedd

Yn Chwarae Teg rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein tîm. Rydym felly’n gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill, a phobl sydd ag anabledd sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.