Rydym ni’n mynd â Menywod Cymru ar daith datblygu gyrfa! Allwch chi?
Y Cyfle
Mae ein Partneriaid Datblygu Gyrfa yn chwarae rôl allweddol wrth ddarparu elfennau dysgu a sgiliau Rhaglen Datblygu Gyrfa Cenedl Hyblyg 2 i fenywod.
Mae’r rhaglen hon yn cefnogi menywod cyflogedig i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sy’n ofynnol er mwyn cymryd eu camau cyntaf mewn arweinyddiaeth.
Eich Diogelwch
Mae’r rôl hon yn y cartref, ac rydym yn darparu gliniadur cwmni a ffôn symudol ar eich cyfer. Mewn amgylchiadau arferol, mae’r rôl yn cynnwys treulio cyfran sylweddol o amser yn cyflwyno sesiynau i gyfranogwyr yn bersonol. Fodd bynnag, mae’r rôl yn cael ei chyflawni ar hyn o bryd gyda mesurau diogelwch COVID-19 ar waith. Rydym felly yn disgwyl i’r rôl gael ei chyflawni’n bennaf trwy fideo-gynadledda a dulliau cyfathrebu rhithwir eraill. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac asesu’r effaith ar ein gwasanaeth yn unol â hynny.
Ein Hymrwymiad
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein tîm ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig eraill a phobl ag anabledd sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Buddiannau i Staff:
- Gweithio Ystwyth
- Gwyliau Blynyddol Hael
- Cymorth Dysgu a Datblygu
- 7% pensiwn cyflogwr
- Cynllun Arian Parod Iechyd Westfield
- Gwell absenoldeb teuluol
Lleoliad: Yn y cartref
Cyflog: £30,354 y flwyddyn
Oriau Gwaith: 35 Awr yr wythnos
Contract: Penodiad am gyfnod penodol o 12 mis
Dyddiad Cau: 12pm, 15 Chwefror 2021
Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: LDPWB290121 )