A ydych yn angerddol am wneud gwahaniaeth parhaol i fywydau menywod ac a ydych yn meddu ar brofiad o wneud ceisiadau am gyllid?
Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Partner Datblygu (Grantiau ac Ymddiriedolaethau) i ymuno â’n tîm
Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â Chwarae Teg, wrth i ni symud tuag at fodel ariannu sy’n fwy cynaliadwy ac amrywiol. Wedi’i hariannu i ddechrau trwy Gronfa Cadernid y Trydydd Sector, bydd y rôl hon o Bartner Datblygu (Grantiau ac Ymddiriedolaethau) yn gweithio gyda thimau sy’n bodoli eisoes i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fenywod yng Nghymru.
Os ydych yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithredol, deinamig a chyflym, ac yn mwynhau gweithio gyda chydweithwyr brwdfrydig a chefnogol i helpu pobl i gyflawni eu potensial llawn, dyma’r rôl i chi.
Y Rôl
Cyflog: £30,658 pro rata
Oriau gwaith: 28 Awr yr wythnos (rhaid bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion)
Hyblygrwydd: Cynigir pob rôl Chwarae Teg ar sail hyblyg oherwydd ein model gweithio ystwyth. Condensed hours, part time/job share and secondment may be considered.
Lleoliad: Gweithio o gartref
Contract: Parhaol
Dyddiad Cau: 09:00 Dydd Llun 22 Tachwedd 2021
Eich Diogelwch
Mae’r holl rolau o fewn Chwarae Teg ar sail gweithio gartref ac yn cael eu cefnogi drwy ddarpariaeth gliniadur a ffôn symudol y cwmni i’w defnyddio at ddibenion gwaith. Mae ein gwaith yn cael ei gyflawni gyda mesurau diogelwch covid-19 ar waith ar hyn o bryd, felly, rydym yn disgwyl i’r rôl hon gael ei chyflawni’n bennaf drwy fideo-gynadledda a dulliau cyfathrebu rhithiol eraill ar hyn o bryd. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn asesu’r effaith ar ein darpariaeth gwasanaeth yn unol â hynny.
Ein Hymrwymiad
Rydym wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, yn ogystal â phobl anabl, sy’n cwrdd â’r meini prawf swydd hanfodol ac yn dewis ymgeisio trwy ein cynllun cyfweldiad gwarantedig.
Buddion Gweithwyr
Rydym yn annog ein gweithwyr i fanteisio ar yr ystod eang o fuddion a gynigir gennym:
- Gweithio Agile ar gyfer cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
- Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar wythnos waith 5 diwrnod)
- Darpariaeth Dysgu a Datblygu
- Pensiwn cyflogwr 7%
- Buddion Westfield Health
- Tâl salwch uwch gan gwmni
- Absenoldeb teuluol gwell
I wneud cais:
Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: DPGT111021)
Oherwydd ein proses rhestr fer Dienw ni allwn dderbyn CVs naill ai yn lle, neu yn ychwanegol at, ffurflen gais am swydd wedi’i chwblhau. Bydd ffurflenni cais yn cael eu sgorio gan ein panel recriwtio ac yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch yn adran ‘Y Rôl a Chi’ ar y ffurflen Gais.
Er mwyn i’ch cais fod yn llwyddiannus, cysylltwch eich ymateb â’r meini prawf hanfodol a dymunol a geir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn ar gyfer y rôl, gan ddarparu enghreifftiau lle bo hynny’n bosibl.
Rydym yn cynnig adborth i bob ymgeisydd, wrth wneud cais am swydd ac ar ôl cyfweliad.