Ydych chi’n Weithiwr Adnoddau Dynol profiadol sydd ag angerdd dros gydraddoldeb ac amrywiaeth?
Ydych chi am ddefnyddio’ch sgiliau i gefnogi newid diwylliant a gwella cynwysoldeb yn y gweithle?

Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Ymgynghorydd Cyflogwyr Adnoddau Dynol i ymuno â’n tîm Cyflogwyr Chwarae Teg.

Nod Cyflogwr Chwarae Teg, a’r tîm Masnachol, yw gweithio gyda busnesau ledled y DU i ysgogi newid diwylliant er mwyn dileu meddwl ac ymddygiad ystrydebol ac i feithrin llesiant. Rydym yn nodi’r meysydd angen o fewn sefydliad sy’n llesteirio’r broses o recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd menywod gyda’r nod o ddileu anghydraddoldebau croestoriadol systemig. Yn ogystal, rydym yn cefnogi datblygiad arweinyddiaeth ar draws y sefydliadau hynny i sbarduno arweinwyr cynhwysol, sy’n cael eu gyrru gan gydraddoldeb.

Caiff yr holl elw Cyflogwr Chwarae Teg ei ail-fuddsoddi yn Chwarae Teg i gefnogi’r elusen i gyflawni ei hamcanion.

Fel Ymgynghorydd Cyflogwyr Adnoddau Dynol mae pob diwrnod yn amrywiol; wrth weithio gyda sefydliadau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector o fewn gwahanol ddiwydiannau ledled y DU. Byddai’r rôl hon yn gweddu i weithiwr adnoddau dynol proffesiynol hyderus a chymwys sy’n fedrus o ran adolygu arferion gwaith cyfredol, darparu argymhellion a chynnig arweiniad a chymorth i gleientiaid. Mae ein Hymgynghorwyr Cyflogwyr Adnoddau Dynol yn gweithio ar ein tanysgrifiad Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg yn bennaf, gyda darpariaeth ychwanegol drwy Atebion Cyflogwyr Fairplay.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm talentog o unigolion, lle byddant yn defnyddio eu gwybodaeth a’u profiad Adnoddau Dynol i gefnogi ein Cleientiaid Cyflogwyr Chwarae Teg, gan fod yn ffrind beirniadol ar hyd eu taith i gynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth. Darperir hyfforddiant o amgylch ein gweithdrefn feincnodi. Byddai gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth ymarferol o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gyda phrofiad o weithredu arferion gorau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd gan yr ymgeisydd brofiad o ddangos meddylfryd masnachol wrth ddarparu cymorth i gleientiaid a gallu gweithio ar eu pen eu hunain ac mewn cydweithrediad â chydweithwyr a rhanddeiliaid i gael canlyniadau a chyrraedd targedau ariannol mewn amgylchedd cyflym. Byddant hefyd yn gyfrifol am ddatblygu cynnwys ychwanegol a chyflwyno sesiynau y tu allan i Raglen Gwobr Cyflogwr Chwarae Teg, yn ôl y gofyn, yn ogystal â gwella’r rhaglen ei hun yn barhaus.

Y Rôl

Cyflog: £30,658

Oriau gwaith: 35 Awr yr wythnos (rhaid bod yn hyblyg i ddiwallu anghenion)

Hyblygrwydd: Cynigir pob rôl Chwarae Teg ar sail hyblyg oherwydd ein model gweithio ystwyth. Condensed hours, part time/job share and secondment may be considered.

Lleoliad: Gweithio o gartref

Contract: Parhaol

Dyddiad Cau: 09:00 Dydd Llun 6 Rhagfyr 2021

Eich diogelwch

Mae’r holl rolau o fewn Chwarae Teg wedi’u lleoli gartref ac yn cael eu hwyluso drwy ddarparu gliniadur a ffôn symudol y cwmni i’w defnyddio at ddibenion gwaith. Ar hyn o bryd mae ein gwaith yn cael ei gwneud gyda mesurau diogelwch Covid-19 ar waith, felly, rydym yn disgwyl i’r rôl hon gael ei chyflawni’n rhithwir yn bennaf, ond pan fydd ein harferion yn caniatáu, efallai y bydd angen rhywfaint o deithio, o fewn y DU. Bydd Chwarae Teg yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac yn asesu’r effaith ar ein gwasanaethau a ddarperir yn unol â hynny.

Ein hymrwymiad

Rydym yn ymrwymedig i wella amrywiaeth ein gweithlu ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill, yn ogystal â phobl anabl, sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd ac sy’n dewis cyflwyno cais drwy ein cynllun gwarantu cyfweliad.

Buddion i weithwyr

Rydym yn annog ein gweithwyr i gymryd mantais o’r ystod wych o fuddion a gynigir gennym:

  • Gweithio ystwyth ar gyfer cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
    • Gwyliau blynyddol hael (40 diwrnod y flwyddyn yn seiliedig ar weithio wythnos waith o bum diwrnod)
  • Darpariaeth dysgu a datblygu
  • Pensiwn cyflogwr o 7%
  • Cynllun Arian Westfield Health
  • Tâl salwch y cwmni hael
  • Absenoldeb uwch am resymau teuluol
I wneud cais:

Os yw’r cyfle hwn yn eich cyffroi, a’ch bod yn credu y gallech wneud cyfraniad cadarnhaol i’n sefydliad cwblhewch bob rhan o’r ffurflen gais a’i hafnon at: [email protected] (nodwch y cyfeirnod swydd yn yr e-bost: ECFPE031221.

Oherwydd ein proses rhestr fer Dienw ni allwn dderbyn CVs naill ai yn lle, neu yn ychwanegol at, ffurflen gais am swydd wedi’i chwblhau. Bydd ffurflenni cais yn cael eu sgorio gan ein panel recriwtio ac yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch yn adran ‘Y Rôl a Chi’ ar y ffurflen Gais.

Er mwyn i’ch cais fod yn llwyddiannus, cysylltwch eich ymateb â’r meini prawf hanfodol a dymunol a geir yn y disgrifiad swydd a manyleb yr unigolyn ar gyfer y rôl, gan ddarparu enghreifftiau lle bo hynny’n bosibl.

Rydym yn cynnig adborth i bob ymgeisydd, wrth wneud cais am swydd ac ar ôl cyfweliad.