Gan fod llawer o weithwyr yn mynd yn ôl i’r gweithle ar ôl cyfnod o wyliau, gall y sgwrs gyffredinol fod ar addunedau blwyddyn newydd, bwyta’n iach a sut mae diwrnod cyflog yn teimlo’n bell, bell i ffwrdd… bydd timau adnoddau dynol a chyllid, fodd bynnag, yn teimlo’r pwysau i gwrdd â dyddiad cau mis Mawrth/Ebrill ar gyfer cyhoeddi eu Bwlch Cyflog ar sail Rhywedd.
Mae’r Bwlch Cyflog ar sail Rhywedd (GPG) yn dangos i ni’r gwahaniaeth mewn enillion cyfartalog rhwng dynion a menywod, ac mae adrodd ar y GPG yn ofyniad i gyflogwyr mawr a’r sector cyhoeddus1 ond mae mwy a mwy o gyflogwyr yn cymryd diddordeb gweithredol yn eu GPG.
I fod yn glir, dydy hyn ddim yn ymwneud â chyflog cyfartal…
Mae’r Ddeddf Cyflog Cyfartal yn atal gwahaniaethu ynghylch telerau ac amodau cyflogaeth rhwng dynion a menywod.2 Mae Cyflog Cyfartal yn cyfeirio at yr un cyflog am yr un gwaith neu waith tebyg. Ar hyn o bryd mae achos yn y llysoedd lle mae nifer o weithwyr benywaidd siop Tesco wedi dod â hawliadau cyflog cyfartal yn seiliedig ar y ffaith bod eu gwaith o werth cyfartal i waith gweithwyr y ganolfan ddosbarthu (gwrywaidd yn bennaf), sy’n cael mwy o dâl.
Mae’r Bwlch Cyflog ar sail Rhywedd yn wahanol. Mae’n mesur y gwahaniaeth mewn enillion yr holl dynion a’r holl fenywod ar draws sefydliad cyfan. Nid yw cael GPG o reidrwydd yn golygu bod sefydliad yn talu cyfradd uwch fesul awr yn fwriadol i un rhywedd yn fwy na’r llall. Mae’n llawer mwy tebygol bod un rhywedd (menywod yn aml) wedi’i ganoli mewn rolau â chyflog is a/neu’n gwneud y rhan fwyaf o’r swyddi rhan-amser, gan leihau eu henillion cyfartalog.
Dadansoddi achosion eich GPG ac yna cymryd camau i fynd i’r afael ag ef, yw’r hyn sy’n bwysig.
Drwy adrodd a dadansoddi eu GPG, bydd busnesau’n gallu nodi lle mae angen iddynt weithredu er mwyn creu gweithlu mwy cyfartal a all yn aml arwain at fwy o gynhyrchiant a chadw staff yn ogystal â llai o absenoldebau salwch.
Os byddwch yn nodi mai cyfrannwr allweddol i’ch bwlch cyflog yw’r ffaith mai ychydig iawn o fenywod neu nad oes gennych ddim menywod hyd yn oed yn eich rolau sydd â chyflog uchel, yna dylech archwilio pam mae hynny.’
Mae newidiadau i brosesau recriwtio, mabwysiadu arferion gweithio mwy modern a hyblyg, symud o ddiwylliant o bresenoliaeth i un yn seiliedig ar ddeiliannau a chanlyniadau, ac adeiladu sgiliau a hyder gweithwyr i gyd yn helpu i leihau’r bwlch yn sylweddol.
Rydych chi’n fusnes bach - a ddylech chi fod yn bryderus am eich bwlch cyflog ar sail rhywedd?
Hyd yn oed os nad ydych am gyhoeddi eich canfyddiadau, mae cynnal y dadansoddiad hwn yn ffordd wych o ddeall anghydraddoldeb ar sail rhywedd yn gyfannol. Mae pawb yn ennill gyda gweithlu mwy amrywiol a chyfartal.
Mae amgylchedd y gweithle yn gwella, mae busnesau’n dod yn fwy cynhyrchiol, ac mae’r economi ehangach yn elwa o’r cynnydd mewn treth hefyd. Amcangyfrifir y byddai cau’r bwlch cyflog ar sail rhywedd yn arwain at gynnydd o £150bn i gynnyrch domestig gros y DU ac mae ein hymchwil yn dangos y gallai ychwanegu bron i £14bn at economi Cymru.
Ond nid mater economaidd yn unig yw hwn. Mae’n fater cymdeithasol. Felly dylem i gyd fod yn cymryd camau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ar sail rhywedd a dileu unrhyw rwystrau sy’n atal mynediad i rolau â chyflogau uwch.
Sut y gallwn ni helpu
Mae Chwarae Teg wedi bod yn gweithio gyda busnesau llai dros nifer o flynyddoedd i’w helpu i ddatblygu a gweithredu strategaethau er mwyn datblygu gweithlu mwy amrywiol gyda’n rhaglen Cenedl Hyblyg2 sy’n cael ei hariannu’n llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Rydym wedi canfod y gall cwmnïau sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni elwa’n fawr o ran cynhyrchiant uwch, gwell cyfraddau cadw staff a llai o absenoldeb salwch ar ôl gweithredu mesurau cymharol syml sy’n galluogi gweithwyr benywaidd i ffynnu.
Rydym hefyd yn cefnogi cyflogwyr a busnesau mwy o bob rhan o Gymru sy’n tanysgrifio i’n gwasanaeth Cyflogwr Chwarae Teg i ddeall achosion eu bylchau cyflog ar sail rhywedd ac i ddatblygu strategaethau wedi’u teilwra’n unigol er mwyn lleihau a dileu’r bwlch yn y pen draw.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn helpu eich busnes, cysylltwch â [email protected] neu ffoniwch 0300 365 0445.
1 Bwlch Cyflog ar sail Rhywedd y DU - GOV.UK (www.gov.uk)
2 Deddf Cyflog Cyfartal 1970 (legislation.gov.uk)