Nid Jyst i Fechgyn y mae gyrfaoedd mewn peirianneg a’r economi werdd oedd y neges mewn digwyddiad gyrfaoedd amgen i ferched ym Mhenygroes.
Wnaeth elusen flaenllaw cydraddoldeb rhywedd Cymru, Chwarae Teg cyflwyno ddigwyddiad diweddaraf Nid Jyst i Fechgyn mewn partneriaeth gydag Adra ar y 6ed o Fawrth.
Mae’r rhaglen, Nid Jyst i Fechgyn yn rhoi cyfle i ferched ym mlynyddoedd 8 a 9 o ysgolion lleol i ddarganfod opsiynau gyrfa wahanol cyn iddyn nhw ddewis ei opsiynau TGAU. Wnaeth 65 disgyblion o Ysgol Dyffryn Nantlle mynychu’r digwyddiad a oedd yn canolbwyntio’n arbennig ar yrfaoedd yn y sector peirianneg a’r economi werdd.
Mae Adra, pwy gynhaliodd y digwyddiad yn darparu cartrefi o safon yng ngogledd Cymru. Maent yn gofalu am 6,800 o gartrefi ac yn darparu gwasanaethau i dros 15,000 o gwsmeriaid lleol. Mae Adra ymhlith y cymdeithasau tai cyntaf yng Nghymru i ddangos eu hymrwymiad i ymgyrch Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio cartrefi erbyn 2030.
Roedd Adra, Weber, Marley, Dŵr Cymru, Grŵp Llandrillo Menai, CIST and Altro Flooring ymhlith yr arddangoswyr a oedd yn bresennol ar y diwrnod.
Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau wrth ddysgu am baneli solar gyda Marley, gosodiadau wal allanol gyda Weber, deunydd lloriau a dylunio gyda Altro Flooring, pympiau gwres a solar PV gyda Grwp Llandrillo Menai a CIST, a gweithgareddau rhwydweithio gyda Dŵr Cymru.
Cafodd y mynychwyr gyfle hefyd i fynd i hyb datgarboneiddio newydd Adra a siarad gyda modelau rôl fenywaidd o Adra.
Mae adroddiad “Profiadau Merched Ifanc o Gyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd yng Nghymru”, a gyhoeddwyd mis diwethaf gan Chwarae Teg, yn astudio’r darlun cyfredol o wasanaethau cyngor gyrfaoedd i fenywod ifanc yng Nghymru.
Mae’n dangos bod gormod o ddewisiadau gyrfa yn dal i gael eu dylanwadu gan stereoteipiau rhywedd hir sefydlog - yn arwain i arwahanu rhywedd yn y gweithle a’r bwlch cyflog ar sail rhywedd parhaus sydd yng Nghymru.
Mae menywod dal i ffafrio swyddi sydd yn draddodiadol i fenywod, er bod angen am fwy o fenywod mewn sectorau fel gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg sy’n gallu cynnig cyflogau uwch.