A yw bwlio ac aflonyddu yn y gweithle wedi mynd yn fwy cuddiedig yn ystod y pandemig?

9th December 2020

Er bod symud i weithio gartref wedi bod o fudd i lawer, mae’n rhaid i fusnesau werthuso’r risgiau y mae hyn wedi’u hachosi i staff sy’n wynebu bwlio ac aflonyddu mwy cuddiedig ar-lein. Mae’r Partner Cyflogwr, Hannah Botes, yn esbonio mwy yn ei herthygl…

Gyda Covid-19 yn dod i mewn i’n bywydau, mae’r amgylchedd gwaith wedi newid a blaenoriaethau busnes wedi gorfod newid yn ddramatig er mwyn sicrhau dilyniant. Yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, mae llawer o fusnesau wedi symud ar-lein er mwyn helpu i reoli’r feirws a diogelu’r GIG ac mae hyn wedi bod yn ddatblygiad gwych o ran cynyddu gweithio hyblyg a chefnogi pobl i fod â sefyllfa gwaith/bywyd mwy hyblyg. Fodd bynnag, mae angen i gyflogwyr ail-werthuso’r risgiau posibl y gall yr arferion gwaith newydd hyn eu hachosi. Mae gweithio ar ben eu hunain, nosweithiau hwyr ac arwahanrwydd wedi golygu bod aflonyddu, bwlio a hyd yn oed aflonyddu rhywiol wedi mynd yn fwy cuddiedig ac o bosibl yn anoddach i’w gweld nag o’r blaen.

Erbyn hyn, mae pobl y fwy tebygol o gysylltu â gweithwyr ar sail un i un drwy alwadau fideo a gall ffiniau cartref/gwaith fynd yn aneglur. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un sy’n cael ei aflonyddu gael ei aflonyddu y tu allan i oriau swyddfa arferol gan ei gwneud yn bosibl i’r aflonyddu barhau gartref. Mae cyfreithiau ymbellhau cymdeithasol yn golygu, os ydych yn y gweithle, efallai y bydd llai o dystion o gwmpas i weld unrhyw ymddygiadau diangen neu amhriodol (mae cael tystion o gwmpas fel arfer yn rhwystr). Yn ogystal, mae cyflogwyr hefyd yn dibynnu ar gontractwyr allanol neu weithwyr llawrydd i gefnogi’r busnes dros dro, ac efallai hyd yn oed yn jyglo cyflwyno gweithwyr newydd, na fyddant i gyd o bosibl wedi’u sefydlu’n llawn o ran y gwerthoedd a’r ymddygiadau y mae’r sefydliad yn eu disgwyl.

Aflonyddu Rhywiol

Diffinnir Aflonyddu Rhywiol1 gan ACAS fel unrhyw ymddygiad o natur rywiol nad yw’r sawl sy’n ei dderbyn yn ei groesawu. Gall hwn fod yn un digwyddiad neu’n batrwm parhaus o ddigwyddiadau. Gall gynnwys fflyrtio; gwneud ystumiau; jôcs sy’n sarhaus yn rhywiol; e-bostio, anfon negeseuon testun gyda chynnwys rhywiol; ymosodiad rhywiol; cyffwrdd rhywun yn erbyn eu hewyllys, er enghraifft eu cofleidio; gwneud sylwadau am ymddangosiad neu wisg rhywun; twyllo rhywun i amau ei bwyll ei hun. Gall gweithio ar wahân i eraill wneud aflonyddu rhywiol hyd yn oed yn fwy posibl.

Twyllo rhywun i amau ei bwyll ei hun

Yn y gweithle2, twyllo rhywun i amau ei bwyll ei hun2 yw pan fydd cyflogwr neu gyflogai yn ymddwyn mewn ffordd sydd â’r nod o ystumio barn ei gyd-weithiwr am realiti neu hyd yn oed wneud iddo gwestiynu ei bwyll ei hunan. Gall hyn arwain at fwy o absenoldeb, llai o gynhyrchiant, a mwy o bryder. Mae’r symudiad i gam-drin mwy seicolegol yn ei wneud yn anoddach ei ganfod ond mae’r un mor niweidiol i iechyd meddwl, cynhyrchiant a morâl staff.

Mae enghreifftiau eraill o aflonyddu a adroddwyd yn ystod y pandemig wedi cynnwys rheolwyr yn tewi aelodau eraill o’r tîm ar alwadau zoom a menywod ddim yn derbyn gwahoddiadau calendr fel nad ydynt yn gallu mynychu cyfarfodydd3. Gan fod cyfarfodydd yn tueddu i fod ar-lein, os nad yw’r dioddefwr wedi cael gwahoddiad, efallai na fydd yn sylweddoli bod hyn yn digwydd i ddechrau.

I’r staff hynny sydd ar ffyrlo, mae’n bwysig cofio bod y cwmni yn dal i fod â’r un rhwymedigaethau tuag at ei weithwyr gan eu bod, wedi’r cyfan, yn dal i gael eu cyflogi. Tra byddwch ar ffyrlo, ni chaniateir i chi wneud unrhyw waith a fyddai’n ‘gwneud arian’ neu’n ‘darparu gwasanaethau’ i’ch cyflogwr. Er ei bod yn anghyfreithlon i gyflogwyr gysylltu â gweithwyr i wneud gwaith tra’n defnyddio Cynllun Cadw Swyddi’r Llywodraeth, mae llawer yn dal i wneud hynny. Mae gweithwyr yn gwneud y gwaith gan eu bod yn ofni colli eu swyddi neu na fyddant yn cael dychwelyd i’r gwaith pan ddaw’r ffyrlo i ben.

Tynnodd ymchwil Chwarae Teg i effaith Covid-19 sylw at y ffaith bod achosion hefyd o fenywod a wrthododd gael eu rhoi ar ffyrlo, er gwaethaf y cymorth y byddai’n ei ddarparu o ran cydbwyso gofal plant, oherwydd ofnau am eu dilyniant gyrfa, gan eu rhoi dan bwysau mawr.4

Oherwydd y dirywiad economaidd, mae llawer o fenywod yn teimlo na allant adrodd am yr hyn sy’n digwydd rhag ofn y caiff ei droi yn eu herbyn ac efallai y byddant yn colli eu swyddi yn y pen draw. Mewn cyfnod lle mae diswyddiadau ar y gorwel a llai o swyddi i symud iddynt, ni fydd llawer o staff am ‘droi’r drol’ ac felly ni fyddant yn adrodd am faterion fel hyn. Mae’n bwysig bod tryloywder o ran prosesau dethol ar gyfer ffyrlo a diswyddo a bod maen prawf dethol cadarn yn cael ei lunio er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd o erledigaeth neu wahaniaethu.

Felly, beth all sefydliadau ei wneud?

  • Adolygu polisïau allweddol megis disgyblu, bwlio ac aflonyddu a gweithio gartref yng nghyd-destun yr hinsawdd bresennol
  • Adolygu eich cofrestrau risg cyfredol ac ystyried y camau lliniaru y gall y sefydliad eu cymryd
  • Adolygu a chyfathrebu eich codau ymddygiad ac atgoffa’r holl staff am y safonau ymddygiad disgwyliedig
  • Sicrhau fod staff Adnoddau Dynol (neu gyfatebol) yn weladwy ac yn hygyrch hyd yn oed mewn amgylchiadau gweithio o bell, fel y gall staff fynegi eu pryderon
  • Adolygu eich meini prawf dethol ar gyfer ffyrlo a diswyddo er mwyn sicrhau eu bod yn deg â’r staff i gyd
  • Ailadrodd y prosesau ar gyfer lleisio pryderon neu gwynion
  • Cefnogi rheolwyr a darparu hyfforddiant gloywi ar sut i reoli timau o bell yn effeithiol
  • Sicrhau fod prosesau cyflwyno ac ymsefydlu o bell yn cael eu hadolygu er mwyn adlewyrchu gwerthoedd y sefydliad

1 www.acas.org.uk/sexualharassment
2 How to Deal with Gaslighting at Work | Health Assured
3 Sexual harassment in a pandemic: why staff are more vulnerable - Personnel Today
4 Chwarae Teg yn datgelu effaith Covid-19 ar Fenywod yng Nghymru