Mae elusen cydraddoldeb rhywedd blaenllaw Cymru yn gofyn i gyflogwyr ddod yn arweinwyr ym maes newid diwylliant o ran cynnig cyfle cyfartal i weithwyr ag anableddau i gyflawni, datblygu a symud ymlaen.
Mae Chwarae Teg yn cynnal gweithdy ‘Ymwybyddiaeth Anabledd’, a ddyluniwyd i gryfhau gwybodaeth cyfranogwyr ynghylch yr anghydraddoldebau systemig sy’n amgylchynu anabledd - boed yn weladwy neu’n anweledig.
Yn cael ei gynnal rhwng 10am-12pm ar ddydd Mawrth 7 Rhagfyr, nod y gweithdy - sy’n costio ond £75, yw cyflwyno’r model cymdeithasol o anabledd, ystyried addasiadau rhesymol y gellir eu defnyddio i gefnogi pobl a chydnabod sut i ddod yn gynghreiriad gwell i gydweithwyr anabl.
Mae hyn yn arbennig o berthnasol a phwysig gan fod adroddiad gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Tachwedd yn dangos bod nifer y bobl anabl mewn cyflogaeth wedi cynyddu o 2.9m yn 2013 i 4.4m yn 2021 - cynnydd o 53.5%.
Mae manylion y gweithdy ‘Ymwybyddiaeth Anabledd’, ac eraill sy’n cael eu rhedeg gan Chwarae Teg fel rhan o’i Raglen Arweinyddiaeth Gynhwysol, ar gael yn https://bit.ly/FPEworkshops. Maent yn rhan o gynnig masnachol Chwarae Teg - Cyflogwr Chwarae Teg - sy’n ail-fuddsoddi elw yn ôl i waith yr elusen i roi diwedd ar anghydraddoldeb rhywedd.