Cefnogi arferion crefyddol yn y gweithle

28th October 2020

Rwyf wastad wedi meddwl am fis Tachwedd fel mis tawel, heb lawer yn digwydd, ond mae’n ymddangos bod mis Tachwedd mewn gwirionedd yn amser prysur i nifer o grefyddau. Dyma ddechrau rhai gwyliau crefyddol mawr i Fwdhyddion, Cristnogion, Rastaffariaid, Hindwiaid a Sikhiaid.

Nid wyf yn dilyn unrhyw gred neu grefydd benodol ond mae gennyf ddiddordeb mewn amrywiaeth o syniadau ac athrawiaethau ac rwy’n deall pam maen nhw’n apelio at bobl. Dywedodd Gandhi unwaith, “Nid un grefydd yw angen y foment, ond parch a goddefgarwch cilyddol tuag at ddilynwyr y crefyddau gwahanol.” Rwy’n meddwl y gallwn ddysgu llawer trwy ehangu ein gwybodaeth am grefyddau.

Rwy’n teimlo nad yw fy hen weithleoedd wedi bod yn amrywiol o ran crefydd am flynyddoedd. Nid yn fwriadol, ond o goeden Nadolig y swyddfa i’r cinio twrci gorfodol i’r tîm ym mis Rhagfyr, gwerthoedd a thraddodiadau Cristnogol yn bennaf sy’n gyffredin mewn gweithleoedd yng Nghymru.

Felly a yw crefydd yn ystyriaeth yn y gweithle? A ddylai fod? Byddai nifer yn dweud ei bod yn ddewis ffordd o fyw personol nad yw’n cael effaith ar waith, ond byddwn yn dadlau bod gwaith yn rhan fawr o’n bywydau a bod cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd yn bwysig iawn i’r rhan fwyaf ohonom. Mae’n rhaid i arferion crefyddol a bywyd gwaith weithio mewn cytgord.

Des i’n ymwybodol o sut mae crefydd yn ymwneud â’r gweithle am y tro cyntaf yn 2013 pan aeth Nadia Eweida, gweithiwr Cristnogol British Airways, ag achos gwahaniaethu yn y gwaith yr holl ffordd i Lys Hawliau Dynol Ewrop ac ennill. Dyfarnodd y llys y gwahaniaethwyd yn annheg yn ei herbyn pan ofynnwyd iddi, fel rhan o bolisi gwisg, i beidio â gwisgo croes yn weladwy. Dadleuodd yn llwyddiannus fod y groes yn symbol o’i ffydd.

Mae’r gyfraith yn gwarchod yn erbyn gwahaniaethu ar sail crefydd, cred grefyddol a bod heb unrhyw gred, ac wrth gwrs gall crefydd hefyd fod yn gysylltiedig yn gynhenid â hil. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ein gwarchod ni i gyd ar sail y nodweddion hyn ac yn gwahardd gwahaniaethu, boed yn uniongyrchol ynteu’n anuniongyrchol. Ond beth allwn ni ei wneud i fod yn fwy cynhwysol?

Rhowch ystyriaeth i’r canlynol:
  • Rheolau gwisg – a all menywod orchuddio eu hunain neu wisgo gorchuddion traddodiadol? All pobl wisgo gemwaith?
    Gofynion deietegol – pa fwyd sy’n cael ei ddarparu gan arlwywyr yn eich digwyddiadau?
  • Pa ddigwyddiadau gwaith a drefnir? Ydynt bob tro yn cynnwys sefydliadu sy’n gweini alcohol? Ydych chi bob tro yn cwrdd ar yr un pryd, pan allai eraill fod yn addoli?
  • Dyletswyddau swyddi – a ydynt yn cynnwys, er enghraifft, ymdrin cig neu alcohol?

Mae digon o reolau, prosesau a gweithgareddau yn y gwaith sy’n gallu gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn gweithwyr o grefyddau gwahanol. Gall prosesau o’r fath greu rhwystrau rhag cael mynediad at waith i nifer o grwpiau crefyddol, sydd yn aml wedi’u cysylltu ymhellach â hil.

Mae’r menywod hyn yn wynebu’r rhwystrau rhyw arferol i’r gweithle, fel mynediad at ofal plant, ond mae anghydraddoldebau a rhagfarnau pellach ar sail hil yn ei gwneud yn fwy heriol iddynt. Maent yn dadlau nad yw eu hanawsterau oherwydd diffyg cyfleoedd am swyddi, ond y gwahaniaethu a brofir gan unigolion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Beth allwn ni ei wneud yn y gweithle?
  • Adnabod y gweithlu – cynhaliwch fonitro cyfleoedd cyfartal a gweithredu ar y data a gesglir
  • Sefydlu calendr aml-ffydd o ddigwyddiadau crefyddol i annog cynhwysiad
  • Bod yn ystyriol – byddwch yn ymwybodol o amserau ymprydio a gofynion gweddïo; defnyddiwch gynllun swydd hyblyg i gymhwyso’r rhain
  • Codi ymwybyddiaeth o ragfarn – rhowch hyfforddiant i bob gweithiwr ar ragfarn ddiarwybod, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad
  • Cyflwyno gweithio ystwyth – rhowch amrywiaeth o ffyrdd hyblyg o weithio i weithwyr i hwyluso presenoldeb mewn digwyddiadau crefyddol neu amser i weddïo
  • Ysgrifennu strategaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth – ceisiwch wella cynhwysiad yn y busnes ac amrywio’r gweithlu
  • Meddu ar brosesau recriwtio cynhwysol – ceisiadau dienw; paneli recriwtio cynrychiadol; gwnewch ymrwymiadau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ran ohonynt

Mae llawer o gamau cadarnhaol y gallwn eu cymryd a fydd yn cael effaith ar fenywod yng Nghymru, gan amrywio’r gweithle, magu goddefiant crefyddol a chynhwysiant, a chyfrannu at weithleoedd sy’n gytbwys o ran rhyw yng Nghymru.

Ymunwch â ni yn ein gweminar nesaf, lle byddwn yn trafod hyn mewn mwy o fanylder gyda’n panel o arbenigwyr.

Lluniwyd yr erthygl hon gan:
Caroline Mathias
Partner Cyflogwyr i Raglen Fusnes Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg