Cefnogi menopos yn y gwaith

22nd June 2020

Mae gweithlu’r DU bellach yn cynnwys dros 50% o fenywod. Mae 13 miliwn o fenywod yn y DU - sef un ym mhob tair - sy’n mynd drwy ryw gam o’r menopos. Mae’n rhaid i gyflogwyr beidio ag anwybyddu cyfran mor sylweddol o’u staff sy’n dioddef cyflwr iechyd hollol naturiol, ond sy’n aml yn wanychol.

Beth yw’r menopos?

Y llynedd, roeddwn yn ddigon ffodus i fynd i’r Uwchgynhadledd Menopos gyntaf yng Nghymru. Gwnaeth uno gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol a busnesau, ynghyd â menywod a oedd yn profi’r menopos, i drafod yr anawsterau sy’n ymwneud â diagnosis, triniaeth a chymorth yn y gweithle. Fel rhywun sydd wedi gweithio yn y maes adnoddau dynol ers pymtheg mlynedd, nid yw’r menopos erioed wedi bod yn fater roedd yn rhaid i mi ymdrin ag ef, neu hyd yn oed ei ystyried. Rwy’n teimlo cywilydd am fethu â chydnabod bod y menopos yn effeithio ar gynifer o fenywod, na sylweddoli bod llawer o fenywod wedi cael eu diswyddo’n annheg pan oeddent o bosib yn dioddef yn ddistaw.

Nawr yn fwy nag erioed, rwyf wedi fy ysgogi i sicrhau ein bod yn dileu’r stigma ynghylch y menopos yn union fel rydym wedi’i wneud yn achos mamolaeth ac iechyd meddwl. Dywedodd bron hanner y menywod (47%) a holwyd, a oedd yn cael eu cyflogi ac yr oedd angen iddynt gymryd diwrnod i ffwrdd oherwydd y menopos, na fyddent yn teimlo’n gyfforddus yn datgelu’r gwir reswm i’w cyflogwr neu eu cydweithwyr. Nid yw llawer o fenywod hyd yn oed yn gwybod eu bod yn mynd drwy’r menopos. Oherwydd bod oddeutu 34 o symptomau o’r menopos, gall fod yn anodd iawn cael diagnosis cywir. Gall hyn ei gwneud hi’n anodd cefnogi cyflogeion drwy’r newid hwn, oherwydd weithiau nad ydynt yn ymwybodol eu hunain o’r hyn sy’n digwydd.

Mae gwefan y GIG yn disgrifio’r menopos fel rhan naturiol o heneiddio sydd fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 oed, wrth i lefelau estrogen menywod ddirywio. Yn y DU, yr oedran ar gyfartaledd i fenyw fynd drwy’r menopos yw 51 oed. Fodd bynnag, mae oddeutu un ym mhob 100 o fenywod yn profi’r menopos cyn 40 oed. Gall y menopos hefyd ddechrau’n ifancach os bydd ofarïau menyw’n cael eu tynnu mewn llawdriniaeth.

Menywod o oedran y menopos yw’r demograffig sy’n tyfu gyflymaf yn y gweithlu.

Sut mae’r menopos yn effeithio ar fenywod sy’n gweithio?

Er mwyn i fusnesau barhau i fod yn gystadleuol ac yn gynhwysol, mae’n rhaid iddynt ystyried sut i gefnogi menywod sy’n profi’r menopos sydd, o bosib, ar frig eu gyrfaoedd. Felly, mae bod yn gefnogol a deall symptomau’r menopos a allai effeithio ar waith a gyrfa menyw, yn hanfodol bwysig.

Mae llawer yn disgrifio cyflwr o’r enw ‘niwl yn y pen’, sy’n cyfeirio at yr effaith ar gof dioddefwyr. Mae hyn yn cynnwys gwneud pethau megis cerdded i mewn i ystafell ac anghofio pam eich bod chi yno, anghofio sut i roi allwedd yn nrws blaen eich tŷ, neu anghofio sut i yrru i’r gwaith. Yn aml, mae’r rheiny sy’n profi hyn yn pryderu efallai fod ganddynt ddementia cynnar. O ran gwaith beunyddiol, gall hyn olygu anghofio terfynau amser, sut i ddod o hyd i ffeil ar y cyfrifiadur neu ofyn am gymorth dro ar ôl tro gyda’r un broblem.

Gall symptomau eraill, megis pyliau cynnes, beri embaras, yn enwedig mewn amgylcheddau lle mae’n rhaid gwisgo iwnifform. Mae diffyg cwsg yn symptom cyffredin; gall hyn effeithio ar allu unigolyn i ganolbwyntio, neu efallai y bydd yn profi newidiadau yn ei hwyliau o ganlyniad i flinder. Gall newidiadau hormonaidd hefyd arwain at orbryder ac iselder.

Pam mae cyflogwyr yn gorfod sicrhau bod cymorth yn flaenoriaeth

Mae gweithlu’r DU bellach yn cynnwys dros 50% o fenywod. Mae 13 miliwn o fenywod yn y DU - sef un ym mhob tair - sy’n mynd drwy ryw gam o’r menopos. Mae’n rhaid i gyflogwyr beidio ag anwybyddu cyfran mor sylweddol o’u staff sy’n dioddef cyflwr iechyd hollol naturiol, ond sy’n aml yn wanychol.

Yn ogystal, mae achosion sy’n ymwneud â’r menopos yn ymddangos mewn tribiwnlysoedd cyflogaeth. Yn yr achos Davies v Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yr Alban, roedd Ms Davies yn dioddef symptomau’r menopos ac roedd wedi derbyn meddyginiaeth. Roedd ei meddyginiaeth yn cael ei chadw ar ei desg, ynghyd â jwg o ddŵr. Daeth i mewn i’r gwaith i weld bod pethau wedi cael eu symud, a bod dau ddyn yn yfed o’r jwg dŵr. Gwnaeth Ms Davies wirio nad oedd ei chydweithwyr wedi cymryd ei meddyginiaeth ac o ganlyniad, gwnaeth hi ddioddef aflonyddu. Nid oedd unrhyw feddyginiaeth yn y dŵr, ond cafodd ei diswyddo oherwydd camymddwyn. Gwnaeth y tribiwnlys ddweud ei bod wedi cael ei diswyddo’n annheg.

Mae’n bwysig cofio, er nad yw’r menopos ei hun yn nodwedd warchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gall y symptomau sy’n gysylltiedig â’r menopos gael eu diffinio fel anabledd. Gall diogelwch hefyd gael ei ddarparu drwy gyfreithiau gwahaniaethau ar sail rhyw neu oedran.

Gall cefnogi cyflogeion drwy’r cyfnod hwn o drawsnewid arbed arian i’r busnes wrth ystyried recriwtio, lleihau costau salwch/absenoldeb yn ogystal â lleihau costau cysylltiadau cyflogeion posib os nad oedd y cyflogai yn cael ei gefnogi’n briodol.

Argymhellion i gyflogwyr

  1. Gwneud addasiadau rhesymol. Gall rhai newidiadau hawdd gynnwys y canlynol: darparu iwnifformau ychwanegol a/neu ffan desg, cyflwyno arferion gweithio hyblyg a chaniatáu amser i ffwrdd ar gyfer apwyntiadau. Sicrhau eich bod yn cefnogi unigolion fesul achos, oherwydd efallai na fydd un addasiad rhesymol yn gweddu i amgylchiadau unigolyn arall.
  2. Uwchsgilio rheolwyr (pob rhyw) ar sut i gefnogi cyflogeion sy’n dioddef o’r menopos. Mae’n rhaid i reolwyr gofio nad oes rhaid iddynt fod yn ‘arbenigwyr ar y menopos’, ond dylent fod yn gallu gwneud addasiadau rhesymol a chreu amgylchedd cefnogol lle mae modd trafod y problemau hyn yn agored yn ogystal â’u datrys.
  3. Dylech ystyried ychwanegu ‘Cymorth ar gyfer y Menopos’ at eich strategaeth lesiant. Dylech ystyried penodi ‘hyrwyddwyr y menopos’ neu uwchsgilio cynrychiolwyr llesiant presennol i ddarparu cymorth i gyflogeion sy’n dioddef o’r menopos.

Nid yw cyflogai sy’n mynd drwy gyfnod o drawsnewid hormonaidd yn gwneud ei swydd yn waeth. Gyda’r dulliau cefnogi cywir ar waith, gellir cynnal perfformiad unigolion a gall busnesau elwa ar lefelau uwch o gadw cyflogeion a sicrhau eu ffyddlondeb.

Lluniwyd yr erthygl hon gan Hannah Botes. Cyffredinolwr adnoddau dynol yw Hannah ac mae ganddi brofiad o amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys gweithgynhyrchu, argraffu, manwerthu, meddygol, y gwasanaeth gyrfaoedd, amaethyddiaeth, gwestai, lletygarwch, twristiaeth a gofal cymdeithasol. Magwyd Hannah yn Saudi Arabia ac mae wedi gweithio yn Abu Dhabi, De Affrica a Chymru. Mae’n hynod frwdfrydig dros bobl ac adnoddau dynol ac mae’n mwynhau cefnogi profiadau ei chleientiaid drwy feddu ar ffocws gweithredol cryf.