Colli cyfle i greu’r Senedd y mae Cymru’n ei haeddu

10th May 2021

“Er gwaethaf rhybuddion mynych, methodd pleidiau gwleidyddol â chymryd camau i sicrhau bod Senedd amrywiol a chynrychioliadol yn cael ei hethol.”

Dyna neges Prif Weithredwr Chwarae Teg Cerys Furlong.

Yn dilyn yr etholiad ar y 6 Mai gallwn weld bod cyfran gyffredinol y menywod yn y Senedd wedi gostwng o 48% i 43%, gan ddangos pa mor ansefydlog yw cydbwysedd rhywedd yn y Senedd. Ac er bod ethol y ferch gyntaf o liw i’r Senedd yn gynnydd sydd i’w groesawu’n fawr, mae wedi cymryd llawer gormod o amser i hyn ddigwydd.

Mae amrywiaeth o ran cynrychiolaeth yn hanfodol. Dylai ein sefydliadau democrataidd adlewyrchu’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a phan fydd lleisiau amrywiol yn yr ystafell trafodir materion gwahanol. Nid yw hyn erioed wedi bod yn gliriach nag yn yr ymateb i bandemig Covid-19, lle’r oedd penderfyniadau polisi yn aml yn gwaethygu effaith anghymesur yr argyfwng ar fenywod, pobl o liw a’r rhai hynny sydd ar incwm isel, am eu bod yn esgeuluso eu hanghenion a’u profiadau.

Yn ystod tymor diwethaf y Senedd cafwyd nifer o gyfleoedd i ddiwygio’r system etholiadol yng Nghymru er mwyn sicrhau mwy o amrywiaeth, ond ni fanteisiwyd ar y rhain. O ganlyniad, mae gennym Senedd sy’n cael ei dominyddu gan ddynion gwyn.

Yn anffodus, nid yw’r gostyngiad hwn yn nifer y menywod a'r diffyg amrywiaeth yn annisgwyl. Rhybuddiwyd pleidiau gwleidyddol dro ar ôl tro cyn yr etholiad bod angen gwneud mwy i sicrhau bod ymgeiswyr amrywiol yn cael eu dewis mewn seddi y gellir eu hennill.

"Rydym yn ymwybodol o’r rhwystrau o ran mwy o amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth; mae'n hen bryd cymryd camau priodol i fynd i'r afael â nhw. Disgwyliwn i bob plaid wleidyddol flaenoriaethu'r mater hwn yn nhymor newydd y Senedd a symud ymlaen drwy ddiwygio etholiadol fel bod gan y Senedd y niferoedd a'r amrywiaeth angenrheidiol i wasanaethu pobl Cymru.

"Golyga hyn gynnydd ym maint y Senedd a chyflwyno cwotâu, mwy o fuddsoddiad mewn mentrau sy'n galluogi pobl i gynnal ymgyrch i gael eu hethol a newidiadau i alluogi rhannu swyddi. Hefyd, mae gwir angen i bob plaid wleidyddol gymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod grwpiau amrywiol sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd mewn gwleidyddiaeth, yn cael eu dewis a'u hethol yn y dyfodol.

"Am gyfnod rhy hir o lawer rydym wedi clywed llawer o eiriau caredig am yr angen i sicrhau mwy o amrywiaeth yn ein gwleidyddiaeth, ond yn anffodus ni wnaed unrhyw gynnydd yn yr etholiad hwn, ond mewn gwirionedd gostwng gwnaeth nifer y menywod. Mae Cymru'n haeddu Senedd sy'n adlewyrchu ein cymunedau amrywiol; mae gan ein Senedd newydd gyfrifoldeb i wireddu hyn.

Cerys Furlong
Prif Weithredwr, Chwarae Teg