Fel sefydliadau sy’n gweithio i wella hawliau menywod yng Nghymru, credwn fod pob menyw a merch yng Nghymru yn haeddu cydraddoldeb a bywyd heb wahaniaethu.
Credwn fod gan bob person yr hawl i benderfynu drostynt eu hunain pwy ydynt, yr hawl i wneud dewisiadau am eu corff eu hunain, a’r hawl i fyw bywyd heb drais ac aflonyddu. Gwyddom fod yr hawliau hyn yn bwysig iawn - bu’n rhaid i fenywod ymladd drostynt am amser hir, a dal i orfod ymladd drostynt hyd heddiw.
Mae amrywiaeth yn gryfder, ac rydym yn gryfach gyda’n gilydd. Nid yw ein profiadau o fod yn fenywod i gyd yr un fath. Maent yn cael eu llunio gan lawer o wahanol bethau, gan gynnwys ein cefndir cymdeithasol, ein hil neu ethnigrwydd, ein crefydd, ein hoedran ac os ydym yn anabl neu’n LHDTC+. Mae hanes yn dangos bod y mudiad hawliau menywod yn aml wedi methu â chydnabod hyn a hyd yn oed wedi eithrio lleisiau menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod lesbiaidd, menywod anabl a menywod dosbarth gweithiol.
Mae ymdrechion i ochri neu eithrio lleisiau menywod traws o’r mudiad hawliau menywod yn parhau â’r duedd niweidiol hon a rhaid ei gwrthsefyll. Ni allwn barhau i wneud yr un camgymeriadau. Mae bod yn ymrwymedig i hawliau menywod i bob menyw yn golygu cydnabod a pharchu ein gwahaniaethau ac uno mewn ffordd nad yw’n gadael unrhyw fenyw ar ôl.
Rydym yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl draws ac anneuaidd yng Nghymru i chwarae rhan lawn a chyfartal yng nghymdeithas Cymru. Mae cefnogi hawliau pobl traws ac anneuaidd yn rhan hanfodol o fudiad hawliau menywod sy’n mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb ar sail rhywedd. Mae’n golygu sefyll gyda’n gilydd yn erbyn gwahaniaethu ac ymosodiadau ar hawliau dynol i bob menyw.
Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, i fod yn nhw eu hunain, ac i fyw bywyd heb wahaniaethu.