Mae elusen cydraddoldeb rhywiol blaenllaw Cymru wedi rhybuddio bod angen cymryd camau pellgyrhaeddol er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb mewn cyfrifoldebau gofalu, tlodi, camdriniaeth ac aflonyddwch a wynebir gan fenywod yng nghymdeithas heddiw.
Mae Chwarae Teg wedi pwysleisio’i bryderon parhaus ac yn galw am weithredu yn ei ail adroddiad ar Gyflwr y Genedl, a lansiwyd yng Nghasnewydd.
Er bod yr ymchwil yn dangos bod rhywfaint o gynnydd cadarnhaol wedi bod, er enghraifft, cynnydd yng nghynrychiolaeth menywod, yn enwedig ym myd gwleidyddiaeth, mae anghydraddoldebau dramatig i fenywod mewn meysydd ac agweddau eraill ar fywyd.
Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi cynyddu, mae menywod yn dal i weithio am gyflogau is, mewn sectorau llai diogel; nid ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn swyddi uwch, a menywod sy’n gwneud y rhan fwyaf o swyddi rhan amser. Mae gwrthgyferbyniad trawiadol o ran ‘cyfrifoldebau gofalu’ hefyd, gyda 28% o fenywod yn dweud mai dyma’r rheswm pam na allant weithio, o’i gymharu â dim ond 7.2% o ddynion. Felly, mae’r elusen yn galw am fwy o gynnydd er mwyn ysgafnu’r baich ar fenywod, sicrhau bod cyfrifoldebau gofalu’n cael eu rhannu a bod menywod yn gallu symud ymlaen yn eu gwaith.
Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod profiadau menywod yn yr economi, cynrychiolaeth menywod a’r mwy o beryglon y mae menywod yn eu hwynebu i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd. Mae sefyllfa menywod yn y farchnad lafur yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin, o galedi ariannol, o dlodi ac o unigedd cymdeithasol. Mae profiadau o aflonyddu a cham-drin rhywiol hefyd yn dal i fod yn bryderus o gyffredin. Ni ddylai hyn fod yn brofiad cyffredin i fenywod, ac mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael â sail y problemau hyn er mwyn sicrhau y gall menywod fyw eu bywydau’n rhydd o aflonyddu a cham-drin.
Gan gofio hyn, mae Chwarae Teg yn pryderu na fydd y materion a’r profiadau hyn yn cael eu hamlygu heb fod lleisiau menywod mewn swyddi o rym, yn enwedig lleisiau menywod amrywiol, ac na fydd newid yn y ffordd y gwneir penderfyniadau ynglŷn â sut i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.