Mae prif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru, Chwarae Teg, yn galw am ffocws o’r newydd gan y llywodraeth, busnes a chymdeithas sifil er mwyn mynd i’r afael ag achosion anghydraddoldeb rhywedd.
Yn ei adroddiad Cyflwr y Genedl, a gyhoeddwyd heddiw (7/02/22), mae Chwarae Teg yn amlinellu cynnydd Cymru tuag at ddod yn genedl gyfartal o ran y rhywedd ac yn archwilio profiadau menywod yn yr economi, eu cynrychiolaeth a’r rhai sydd mewn perygl.
Mae’r data a nodir yn Cyflwr y Genedl yn datgelu darlun rhwystredig o gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru. Er ein bod yn dod yn genedl fwy cyfartal mewn rhai meysydd, nid ydym yn gwneud fawr ddim cynnydd yn erbyn gormod o’r dangosyddion. Mae’r bwlch cyflog ar sail rhywedd yng Nghymru wedi cynyddu i 12.3% eleni, dim ond 29% o gynghorwyr sy’n fenywod, a dim ond 28% o fenywod yng Nghymru sy’n teimlo’n ddiogel yn cerdded ar eu pennau eu hunain yn y tywyllwch.
Mae mwy o fenywod 16-24 oed bellach mewn gwaith o gymharu â dynion, mae hyn yn gwrthgyferbynnu, fodd bynnag, â chynnydd cyffredinol mewn diweithdra ymhlith menywod, gyda menywod o leiafrif ethnig yn cael eu heffeithio’n fwyaf arbennig. Mae 6.7% o fenywod o leiafrif ethnig yn ddi-waith ar hyn o bryd, cynnydd o 2.4% ers y llynedd. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o ddim ond 0.4% yn y gyfradd ddiweithdra ymhlith menywod gwyn i gyfradd gyffredinol o 3.8%.
Er i etholiadau i’r Senedd ym mis Mai 2021 weld y fenyw o liw gyntaf yn cael ei hethol i senedd Cymru – rhywbeth yr oedd yn hen bryd iddo ddigwydd – mae cynrychiolaeth menywod ar bob lefel o lywodraeth yn parhau i fod yn fregus ac anghyfartal. Amser a ddengys a welwn ni gynnydd yng nghynrychiolaeth menywod ar lefel awdurdodau lleol yn yr etholiadau sydd i ddod ym mis Mai.
Mae Cyflwr y Genedl 2022 hefyd yn dangos yn glir y ffaith bod menywod yn profi aflonyddu, trais rhywiol, a throseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig ar gyfradd uwch na dynion. Mae 73% o’r holl ddioddefwyr troseddau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig yng Nghymru a Lloegr yn fenywod gyda 53% o’r holl droseddau trais yn erbyn menywod yn cael eu cofnodi fel rhai sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig.
Mae data eleni’n amlygu, unwaith eto, sut y gall nodweddion fel rhywedd, hil, rhywioldeb, anabledd, dosbarth, oedran a ffydd ryngweithio gan yn aml greu profiadau lluosog o anfantais. Er mwyn creu Cymru fwy cyfartal, mae angen i ni ganolbwyntio ar y rhai mwyaf ymylol yn gyntaf; y menywod sy’n wynebu’r rhwystrau a’r anfantais fwyaf.
Bydd Prif Weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong, a’r Partner Ymchwil, Dr Hade Turkmen, yn ymuno â Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i drafod canfyddiadau allweddol eleni mewn gweminar i randdeiliaid yn ddiweddarach heddiw.