Cymwysterau Cymru yn Gyflogwr Chwarae Teg o Safon Aur

28th June 2021
Mae Cymwysterau Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn gwobr Safon Aur Cyflogwr Chwarae Teg gan Chwarae Teg.

Mae’r wobr yn dynodi bod Cymwysterau Cymru wedi ymrwymo’n gadarn i gydraddoldeb rhywedd ac amrywiaeth ag â phenderfyniad clir i ymgysylltu â staff ar bob lefel i ddarparu cyfleoedd i bawb.

Mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac mae'n adlewyrchu'r diwylliant cadarnhaol rydym wedi'i feithrin ymhlith ein staff yn Cymwysterau Cymru o'r cychwyn cyntaf. Rwy'n falch bod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd a chynhwysiant yn y gweithle wedi cael ei gydnabod fel hyn.

Philip Blaker
Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru

Cymwysterau Cymru yw’r ail sefydliad yn unig i dderbyn gwobr Safon Aur Chwarae Teg.

Mae rhaglen arloesol Cyflogwr Chwarae Teg yn meincnodi sefydliadau yn erbyn eraill yn yr un sector, yn pennu meysydd llwyddiant allweddol a’r rhai sydd angen eu datblygu. Yna dilynir hyn gan daith o gefnogaeth a gwelliant dan arweiniad, gan gynnwys cynllun gweithredu pwrpasol a mynediad at ystod o adnoddau a digwyddiadau.

Mae ennill gwobr Aur Cyflogwr Chwarae Teg yn anhygoel o anodd ac yn adlewyrchu'n wirioneddol yr ymrwymiad sydd gan Cymwysterau Cymru i gydraddoldeb rhywedd. Maen nhw wedi gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau bod diwylliant o amrywiaeth a chynhwysiant yn rhan annatod o'r sefydliad, ac felly rwyf wrth fy modd eu bod yn derbyn y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.

Stephanie Griffiths
Cyfarwyddwr Masnachol, Chwarae Teg

Mae Chwarae Teg yn elusen sy’n gweithio i greu Cymru decach lle mae menywod yn cyflawni ac yn ffynnu ar draws pob sector ac ar bob lefel yn yr economi; lle mae menywod yn weladwy ac yn ddylanwadol ar draws pob sector o’r economi, cymdeithas ac mewn bywyd cyhoeddus; a lle mae gan fenywod y grym i gyflawni eu potensial, waeth beth fo’u cefndir, eu statws cymdeithasol, neu eu lleoliad daearyddol.