Mae seremoni wobrwyo sy’n cydnabod cyflawniadau rhai o fenywod mwyaf nodedig Cymru wedi gweld anrhydeddau’n ‘rhithwir’ ledled y wlad.
Cafodd gwobrau Womenspire, a gynhaliwyd gan Chwarae Teg, eu ffrydio ar draws Face Book a Trydar neithiwr (29.9.2020) yn arddangos yr enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i eraill a’u cymunedau.
Cyflwynwyd gan Andrea Byrne o ITV Cymru a’r actores Gymreig Elin Pavli-Hinde, roedd y seremoni’n gallu agor i gynulleidfa ar-lein fyd-eang i rannu newyddion am lwyddiannau’r menywod.
Yr enillydd mwyaf ar y noson oedd ymgyrchydd ymwybyddiaeth Awtistiaeth a sylfaenydd Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd, Hazel Lim. Derbyniodd wobr Pencampwraig Gymunedol yn ogystal â theitl cyffredinol Pencampwraig Womenspire 2020 ar ôl gwneud argraff ar y beirniaid gyda’i cynhesrwydd ac hymrwymiad diysgog i’w hachos.
Roedd enillwyr mewn categorïau eraill fel a ganlyn:
Aelod o’r Bwrdd: Jessica Leigh Jones (Bro Morgannwg) - Peiriannydd ac Astroffisegydd ac enillydd-aml-wobr
Arweinydd: Tracey Rankine (Pen-y-bont) - Ditectif Prif Arolygydd gyda Heddlu De Cymru, sy’n rhagori wrth ddatblygu cydweithwyr
Menyw Ym Maes STEM: Youmna Mouhamad (Abertawe) - menyw aml-dalentog sydd yn cyd-gymrawd trosglwyddo technoleg STEM ym Mhrifysgol Abertawe a chrewr rhwydwaith BAME y coleg peirianneg
Menyw Mewn Chwaraeon: Elinor Snowsill (Caerdydd) - Chwaraewr Rygbi Cymru a mentor yn y School of Hard Knocks
Seren Ddisglair: Bethan Owen (Bodelwyddan) - gofalwr ifanc a sylfaenydd clwb Karate
Entrepreneur: Sian Cartledge (Castell-nedd) - perchennog busnes adnoddau dysgu Cymraeg - Max Rocks
Dysgwr: Carys Godding (Pen-y-bont ar Ogwr) - Peiriannydd ATC yn Dŵr Cymru gydag angerdd dros ddysgu sydd wedi mynd â hi o brentisiaeth i radd gyntaf mewn Peirianneg Drydanol
Roedd dwy wobr i gyflogwyr hefyd, gyda’r ‘Hyrwyddwr Cydraddoldeb Rhywiol’ yn mynd i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a ‘Chyflogwr Chwarae Teg’ i’r Brifysgol Agored.
Hefyd cyhoeddwyd Tahirah Ali, gwirfoddolwr cymunedol, llysgennad ieuenctid a hyrwyddwr amrywiaeth, fel enillydd gwobr ‘Dewis y Bobl’ yn dilyn pleidlais gyhoeddus Merched Gwych o Gymru.